Mae’r batiwr 19 oed o Gaerdydd, Kiran Carlson wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg am dair blynedd arall.

Bydd y cytundeb yn ei gadw gyda’r sir tan ddiwedd tymor 2020.

Ar ôl graddio o Academi Morgannwg, fe ddaeth i amlygrwydd fel batiwr 18 oed wrth dorri’r record am fod y chwaraewr ieuengaf erioed yn hanes y gêm yng Nghymru a Lloegr i daro canred a chipio pum wiced yn yr un gêm.

Fe gipiodd e bum wiced yn ei gêm gyntaf yn erbyn Swydd Northampton cyn torri’r record yn erbyn Swydd Essex bythefnos yn ddiweddarach – gan dorri’r record hefyd am y chwaraewr ieuengaf i sgorio canred i Forgannwg.

Roedd 2017 hefyd yn dymor llwyddiannus iddo, wrth iddo wneud ei farc mewn gemau undydd, a cholli allan o drwch blewyn ar record y chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio canred dwbwl i Forgannwg wrth sgorio 191 yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd.

Dyw hi ddim yn glir eto am faint fydd e ar gael i Forgannwg dros y tymhorau nesaf wrth iddo ddechrau ar radd mewn peirianneg sifil ym Mhrifysgol Caerdydd fis Hydref nesaf.

‘Llwyddiant a thlysau i Gymru’

Dywedodd Kiran Carlson: “Mae’n wych cael ymroi i Forgannwg am y tair blynedd nesaf ac mae’n braf cael sicrwydd a gallu canolbwyntio ar fy ngêm fel y galla i symud ymlaen i’r lefel nesaf dros y tymhorau i ddod.

“Fe fydd yn gyfnod prysur yn fy mywyd rhwng y criced a’r brifysgol ond alla i ddim aros i gael dechrau arni. Mae’r gwaith caled eisoes wedi dechrau a gallwn ni gymryd llawer o bethau positif allan o’r tymor diwethaf ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Mae tipyn o dalent ifanc yn y clwb. Dw i wedi cael fy magu yn chwarae criced ar wahanol oedrannau gyda nifer o’r bois felly mae’n braf cael dod at ein gilydd mewn sefyllfa broffesiynol a gobeithio, gyda’n gilydd, y gallwn ni ddod â llwyddiant a thlysau’n ôl i Gymru.”

‘Y genhedlaeth nesaf o Gymry’

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Un o brif amcanion y clwb yw datblygu’r genhedlaeth nesaf o sêr Cymreig a gyda chwaraewyr fel Kiran, Aneurin Donald, Lukas Carey ac Andrew Salter yn dod drwy’r system erbyn hyn, mae’n dangos bod criced yng Nghymru ac yn ein Hacademi yn ffynnu.”