Mae batiwr Morgannwg, Will Bragg wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r byd criced yn 31 oed.

Doedd e ddim wedi llwyddo i sicrhau ei le yn y tîm er iddo fe gael ei dymhorau mwyaf llwyddiannus i’r sir dros y blynyddoedd diwethaf.

Fel wicedwr y dechreuodd ei yrfa gyda Morgannwg yn 2007 ond oherwydd bod Mark Wallace yn sicr o’i le, fe benderfynodd Will Bragg ganolbwyntio ar ei fatio ac fe sgoriodd ei ganred cyntaf yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Llandrillo yn Rhos.

Tymor gorau ei yrfa

Fe ddaeth ei dymor gorau yn 2016 ar ôl symud o fod yn agorwr i fod yn fatiwr rhif tri, wrth sgorio 1,000 o rediadau am y trydydd tro yn ei yrfa, a chael sgôr gorau ei yrfa ddwywaith yn ystod yr un tymor.

Sgoriodd e 129 oddi cartref yn Derby ddechrau’r tymor hwnnw, a gwella ar y sgôr wrth daro 161 heb fod allan yn erbyn Essex yng Nghaerdydd. Ond fe fu’n sâl am gyfnodau helaeth, gan leihau nifer y gemau yr oedd e wedi gallu’u chwarae.

Y tymor cyn hynny, fe sgoriodd e ddau ganred yn y Bencampwriaeth, y naill yn erbyn Swydd Gaerlŷr a’r llall yn erbyn Swydd Gaint.

Yn 2017, fe sgoriodd e 94 mewn gêm 50 pelawd yn erbyn Swydd Gaint ar gae San Helen yn Abertawe.

Yn ystod ei yrfa, fe sgoriodd e 5,673 o rediadau dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 30.17, gan daro chwe chanred a 35 hanner canred.

Roedd ganddo fe flwyddyn yn weddill o’i gytundeb presennol.

‘Rhan hanfodol o Forgannwg’

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Mae Will Bragg wedi bod yn rhan hanfodol o Forgannwg ers dros ddegawd.

“Roedd e’n rhan fawr o’r ystafell newid ac yn fatiwr penigamp i’r clwb, felly mae’n drist gweld ei yrfa’n dod i ben yn gynnar.

“Gall Will edrych yn ôl ar yrfa broffesiynol ragorol gyda balchder mawr ac ar ran y clwb, y pwyllgor a’n holl gefnogwyr, hoffwn ddiolch iddo fe am ei ymroddiad i Forgannwg, a dymuno’n dda iddo fe a’i deulu yn y dyfodol.”