Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi pryd fydd eu gemau ugain pelawd yng nghystadleuaeth y T20 Blast yn cael eu cynnal yn ystod tymor 2018.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau gyda thaith i Swydd Hampshire ar Orffennaf 6 a’r gemau yn y grwpiau’n dod i ben gyda thaith i Swydd Surrey ar Awst 17.

Bydd eu gêm gyntaf ar eu tomen eu hunain yn erbyn Swydd Sussex yng Nghaerdydd ar Orffennaf 8.

Bydd gan Forgannwg bedair gêm gartref ar nos Wener, dwy gêm ar ddydd Sul ac un gêm ar nos Fawrth.

Bydd Diwrnod y Ffeinals yn cael ei gynnal yn Edgbaston ar Fedi 15, a bydd Morgannwg yn gobeithio gwella ar eu perfformiad y tymor diwethaf pan gyrhaeddon nhw’r rownd gyn-derfynol cyn colli yn erbyn y Birmingham Bears.

Swydd Nottingham yw deiliaid y tlws.

Y gemau’n llawn (gemau cartref mewn ‘bold’)

Gorffennaf 6: Swydd Hampshire
Gorffennaf 8: Swydd Sussex
Gorffennaf 13: Swydd Essex
Gorffennaf 20: Gwlad yr Haf
Gorffennaf 27: Swydd Gaerloyw
Gorffennaf 29: Swydd Gaint
Gorffennaf 31: Swydd Surrey
Awst 3: Swydd Gaerloyw
Awst 5: Swydd Middlesex
Awst 7: Swydd Essex
Awst 10: Swydd Hampshire
Awst 12: Gwlad yr Haf
Awst 14: Swydd Sussex
Awst 17: Swydd Surrey

Bydd y rhestr ar gyfer y Bencampwriaeth a’r gystadleuaeth 50 pelawd yn cael eu cyhoeddi am 11 o’r gloch fore dydd Mercher.