Yr Awstraliad Shaun Marsh fydd chwaraewr tramor tîm criced Morgannwg am y ddau dymor nesaf.
Ond fydd y batiwr agoriadol llaw chwith 34 oed ddim ar gael ar ddechrau’r tymor oherwydd ymrwymiadau yng nghystadleuaeth yr IPL yn India.
Mae disgwyl i Forgannwg gyhoeddi cyn dechrau’r tymor pwy fydd yn cymryd ei le ar gyfer cyfnod agoriadol y tymor.
Gyrfa
Mae e wedi cynrychioli tîm Awstralia mewn 23 o gemau prawf, 53 o gemau 50 pelawd a phymtheg o gemau ugain pelawd.
Mae e wedi sgorio 1,476 o rediadau mewn gemau prawf gan gynnwys pedwar canred, 1,896 o rediadau mewn gemau 50 pelawd gan gynnwys tri chanred a 255 o rediadau mewn gemau ugain pelawd.
Fe oedd y pedwerydd Awstraliad ar bymtheg i sgorio canred yn ei gêm brawf gyntaf, ac fe gafodd ei enwi’n seren y gêm yn ei gêm 50 pelawd gyntaf dros ei wlad yn 2008.
Roedd yn brif sgoriwr yr IPL ym mlwyddyn gynta’r gystadleuaeth yn 2008, ac yntau’n aelod allweddol o dîm y Kings XI Punjab.
Treuliodd e gyfnod yn chwarae i Forgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 yn 2012.
Mae e hefyd wedi cynrychioli Gorllewin Awstralia, a’r Perth Scorchers yn y Big Bash League, sef cystadleuaeth ugain pelawd Awstralia.
Mae’n fab i gyn-chwaraewr, hyfforddwr a dewiswr Awstralia, Geoff Marsh ac yn frawd i gricedwr Awstralia, Mitchell Marsh.
Ystadegau
Mae e wedi sgorio 8,496 o rediadau dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa, gan gynnwys 22 canred a 42 hanner canred.
Daeth ei sgôr uchaf erioed – 182 – mewn gêm brawf i Awstralia yn erbyn India’r Gorllewin yn 2015, wrth adeiladu partneriaeth o 449 gydag Adam Voges, oedd yn record byd am bartneriaeth pedwaredd wiced.
Mae’n aelod o garfan Awstralia ar hyn o bryd, ond mae amheuon am ei ffitrwydd ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn erbyn Lloegr ddydd Iau oherwydd anaf i’w gefn.
‘Hynod gyffrous’
Dywedodd Shaun Marsh ei fod yn “hynod gyffrous” o gael dychwelyd i Forgannwg.
“Mae gen i atgofion gwych o’r clwb pan chwaraeais i yng Nghaerdydd yn 2012 a dw i’n falch o gael bod yn ôl.”
Ychwanegodd ei fod e “wedi neidio” ar y cyfle i ddychwelyd i’r sir.