Mae cyn-gapten a phrif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, Matthew Maynard wedi’i benodi’n hyfforddwr batio cysylltiol y sir.

Bydd e’n gweithio o dan y prif hyfforddwr presennol, Robert Croft fel rhan o swydd ran-amser, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau’r batwyr, yn ogystal â hyfforddi batwyr yr Academi.

Roedd e’n chwaraewr gyda’r sir am fwy nag ugain mlynedd, gan arwain y sir i dlws Pencampwriaeth y Siroedd yn 1997.

Erbyn diwedd ei yrfa, roedd e wedi sgorio dros 24,000 o rediadau dosbarth cyntaf ac wedi taro 54 canred, sy’n record i’r sir.

Chwaraeodd e mewn pedair gêm brawf a 14 o gemau undydd dros Loegr.

Ar ôl mentro i’r byd hyfforddi, treuliodd e gyfnod yn is-hyfforddwr ar dîm Lloegr cyn mynd yn brif hyfforddwr yn Ne Affrica a Gwlad yr Haf.

“Wrth ei fodd”

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Matthew Maynard: “Dw i wrth fy modd o gael bod yn ôl yn y clwb oedd yn gartref i fi cyhyd.

“Mae ganddon ni griw cyffrous iawn o fatwyr ym Morgannwg, a dw i’n edrych ymlaen at y cyfle i weithio gyda nhw.

“Gobeithio y galla i drosglwyddo peth o’r wybodaeth dw i wedi’i hamsugno dros yrfa hir a’u helpu nhw i godi eu gêm i’r lefel nesaf.”

Profiad amhrisiadwy

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Mae gan Matt lu o brofiad fel chwaraewr a hyfforddwr a fydd yn amhrisiadwy i’r clwb.

“Mae ganddo fe angerdd a brwdfrydedd go iawn am fatio a gyda’i hanes ym Morgannwg, fe yw’r person delfrydol i ddod i mewn i oruchwylio a datblygu’r batwyr yn y tîm cyntaf, yn ogystal â’n talentau ifanc.”