Mark Wallace y batiwr a cheidwad y wiced sy’ wedi ei benodi’n Gapten Clwb Criced Morgannwg ar gyfer 2012.

Bydd yn cymryd lle Alviro Petersen sy’n ndychwelyd i Dde Affrica ar ddiwedd y tymor presennol.

Mae’r dyn 29 oed o Abergafeni wedi chwarae’n wych y tymro hwn, gan guro’I hen record ar gyfer y nifer o rediadau mewn tymor, sef 856 yn 2003.

Mae Wallace yn chwarae i Forgannwg ers 1999, pan oedd yn llanc ifanc 17 oed – ef yw’r ceidwad y wiced ieuengaf yn hanes y clwb.

Mi fydd yn gapten ar Forgannwg yn ei 14ydd tymor gyda’r clwb.

“Rwy’n hynod filch o gael fy mhenodi’n gapten,” meddai Wallace, gan ychwanegu ei fod am ganlbwyntio’i holl egni ar ddenu llwyddiant yn ôl i’r clwb.