Chris Coole (Morgnnwg)
Notts 200-7  Morgannwg 198-9

Fe gollodd Morgannwg yn erbyn cewri Nottinghamshire er gwaetha’ perfformiadau nodedig gan ddau o’u chwaraewyr.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y Cymry’n bumed yn eu grŵp o saith yng nghystadleuaeth 40 pelawd Clydesdale Bank.

Fe gafodd y batiwr ifanc Chris Cooke ei sgôr gorau eto wrth gael 75 ym matiad Morgannwg a llwyddodd y bowliwr Will Owen i gymryd 4 wiced am 40.

Ond, gyda glaw wedi cwtogi’r gêm i 38 pelawd, fe lwyddodd Notts i gyrraedd y targed o 196 yn gyfforddus gyda thair wiced a mwy na phedair pelawd dros ben.