Alviro Petersen - unig sgoriwr yr ail fatiad
Middlesex 150 a 398 Morgannwg 522 a 28-1
Fe fydd Morgannwg yn gorfod gwneud heb eu harwr bowlio wrth iddyn nhw aros yn Llundain i wynebu Surrey fory.
Mae James Harris wedi anafu ei droed ar ôl cymryd wyth wiced yn y fuddugoliaeth gyfforddus o naw wiced yn erbyn Middlesex yn Lord’s.
Fe gafodd ef a’r troellwr, Dean Cosker, dair wiced yr un wrth i Forgannwg orffen ail fatiad y Saeson am 398, gan adael targed iddyn nhw eu hunain o 27 i ennill.
Fe wnaethon nhw hynny’n hawdd, er colli Gareth Rees heb sgorio. Y capten, Alviro Petersen, oedd yr unig sgoriwr, gyda 23, a’r pump arall yn ecstras.
Roedd y troellwr arall, Robert Croft, hefyd wedi cymryd dwy wiced ac roedd un i Will Owen.
Morgannwg yn ail
Bellach, mae Morgannwg yn ail yn Ail Adran y Bencampwriaeth ar ôl cael pwyntiau llawn yn eu dwy gêm ddiwetha’. Ond maen nhw wedi chwarae gêm yn fwy na’r ddau dîm o’u cwmpas.
Maen nhw’n symud yn awr o un cae enwog i’r llall – i’r Oval – gydag Alex Jones yn dod i mewn yn lle Harris mewn carfano 14 sydd fel arall heb newid.