Robert Croft - wrth y llain
Middlesex 150  Morgannwg 517-8

Mae Morgannwg mewn sefyllfa gre’ iawn ar hanner eu gêm yn erbyn Middlesex yn Lord’s ac yn debyg o osod targed anferth ar gyfer ail fatiad y tîm sy’n ail yn Ail Adran y Bencampwriaeth.

Fe gyfrannodd pob un o’r batwyr ddoe wrth i’r Cymry gyrraedd 517 am 8, gyda Ben Wright yn cyrraedd 101, ei gant cynta’ tros y sir.

Ynghynt roedd yr agorwr Gareth Rees wedi gorffen ar 75 a Will Bragg ar 87 ac fe gyfrannodd y bowlwyr hefyd, gyda James Harris yn dilyn ei bum wiced gyda sgôr o 41.

Fe fydd llawer yn dibynnu’n awr ar y troellwr Robert Croft sydd heb fod allan ar 30, gyda’i gyd-droellwr, Dean Cosker, ar 2.

Mae Morgannwg wedi cael pwyntiau bonws llawn ac maen nhw 367 ar y blaen ar ddechrau’r trydydd diwrnod o bedwar.