Fe gipiodd troellwr Morgannwg, Dean Cosker, bedair wiced i sicrhau buddugoliaeth yn y gystadleuaeth 40 pelawd yn Stadiwm Swalec.
Roedd y Dreigiau wedi cyfyngu’r ymwelwyr i 154-8 gyda James Harris yn cymryd dwy wiced a Will Owen un.
Fe gafodd Gareth Rees hwyl gyda’r bat i Forgannwg wrth iddo sgorio 59 rhediad oddi ar 100 pêl.
Fe ychwanegodd y capten Alviro Petersen 20 rhediad oddi ar 23 pêl cyn i Jim Allenby sgorio 30 rhediad i helpu achos Morgannwg.
Fe gafodd y fuddugoliaeth ei sicrhau’r gyda deg pêl yn weddill ar ôl i Graham Wagg sgorio 22 rhediad oddi ar 23 pêl.