Mark Wallace - y cant cynta'
Kent 242 a 184 Morgannwg 434
Fe gafodd Morgannwg fuddugoliaeth swmpus wrth guro Caint o fwy na batiad, a hynny mewn tri diwrnod.
Mark Wallace oedd yr arwr gyda’r bat, yn sgorio cant cynta’r sir eleni i fynd â Morgannwg i 434 yn eu batiad cynta’.
Fe gafodd ef 107, gyda’r bowliwr James Harris yn cael 57 wrth ei gefnogi. Roedd hynny’n gosod y Cymry bron 200 ar y blaen.
Ddaeth Caint ddim yn agos ati, gyda Harris a Will Owen yn cipio tair wiced yr un a Wagg a Cosker yn cael bob i ddwy.
Roedd yna gyfnod allweddol tua chanol y batiad, wrth i Owen gipio tair wiced gyflym wrth i Gaint symud o 97 i 119.
Dyma ail fuddugoliaeth Morgannwg eleni ac fe gawson nhw bwyntiau llawn o 24.