James Harris - cyfnod da gyda'r bat
Kent 242  Morgannwg 366-7

Mae Morgannwg mewn safle cry’ iawn hanner ffordd trwy eu gêm bedair niwrnod yn erbyn Caint ac yn ffefrynnau i gael eu hail fuddugoliaeth y tymor hwn.

Gyda’r wicedwr Wallace a’r bowliwr cyflym James Harris yn nesu at bartneriaeth o 100, maen nhw 124 ar y blaen gyda thair wiced yn weddill.

Mae Wallace ar 65 a Harris, sy’n cael cyfnod da gyda’r bat, ar 44, gan adeiladu ar seiliau cadarn a oedd wedi eu gosod gan Will Bragg (73) a Ben Wright (82).

Y bartneriaeth rhyngddyn nhw oedd yr un allweddol ddoe, gan fynd â’r Cymry o 74-3 i 211-4, cyn i Wallace gyrraedd ei hanner cant mewn 97 pelen.

Fe gyrhaeddodd y 50 trwy daro’r troellwr Nel am 6.