Er cymaint y dasg yr oedd Morgannwg wedi ei gosod i’w gwrthwynebwyr, fe lwyddodd Essex i’w curo o chwe wiced ddoe.

Roedd ar Essex angen 360 o rediadau wrth gychwyn y diwrnod ar 34-1, ond gyda Ravi Bopara a Matt Walker yn sgorio 217 rhyngddyn nhw, fe lwyddodd y Saeson i gyrraedd y nod yn y bedwaredd wiced.

Enillodd Essex 21 pwynt o’u buddugoliaeth gyntaf mewn 10 gêm ers mis Gorffennaf y llynedd, a chasglodd Morgannwg bump.