Petersen yn hyderus
Morgannwg 282 a 335  Essex 258 a 34-1

Mae Morgannwg yn hyderus y byddan nhw’n gallu gorffen y gwaith o guro Essex yn Chelmsford hefyd.

Fe fydd rhaid i’r Saeson sgorio mwy na 320 arall er mwyn ennill ar ôl i Forgannwg osod targed o 360 ar gyfer diwrnod ola’r gêm bedwar niwrnod.

Fe gyfrannodd Mark Wallace 82 cyflym ddiwedd y dydd ddoe er mwyn cynyddu’r cyfanswm ac, yn ôl capten Morgannwg, Alviro Petersen, maen nhw’n hyderus ar ôl chwarae “criced da” trwy gydol y gêm.

Fe lwyddodd y bowliwr James Harris hefyd i daro’n gyflym ar ddechrau ail fatiad Essex gan gymryd wiced Billy Goldeman gya’r bumed belen.

Mae hynny’n golygu bod Essex ar 34-1 ond mae’r batiwr rhyngwladol, Alastair Cooke, yn dal i fod yno.