Pedair wiced i Cosker
Mae Morgannwg 74 ar y  blaen ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gêm yn erbyn Essex yn Chelmsford.

Y troellwr, Dean Cosker, oedd yr arwr gyda 4 wiced am 35 wrth i Essex gael eu bowlio am 258 – yn ateb 282 gan Forgannwg yn eu batiad cynta’.

Roedd yna 4 wiced am 68 i’r bowliwr ifanc, James Harris, wrth iddo yntau ddilyn ei sgôr o 53 gyda’r bat.

Erbyn y diwedd, roedd Morgannwg ar 50-1 – y capten Alviro Petersen oedd allan ond roedd yr agorwr Gareth Rees yn dal i fod yno ar 25.