Gareth Rees - yr arwr penna'
Surrey 575-7 Morgannwg 395 a 198-4
Yr agorwr Gareth Rees oedd yr arwr penna’ wrth i Forgannwg lwyddo i rwystro Surrey rhag ennill yn Stadiwm SWALEC.
Neithiwr, roedd hi’n ymddangos fod peryg i’r Cymry golli o fwy na batiad a nhwthau angen 49 o rediadau i osgoi batio am yr ail dro ar unwaith, gyda dim ond un wiced ar ôl.
Fe fu’n rhaid iddyn nhw fatio eto, ond fe lwyddon nhw i bara’r diwrnod a gorffen ar 198-4 gan ennill wyth pwynt o’i gymharu â naw i Surrey.
Fe gafodd Rees 89 a chael cymorth cadarn gan Mike Powell, a sgoriodd 65.
Ynghynt, roedd y bowliwr ifanc, James Harris, wedi llwyddo i sgorio 43 heb fod allan ar ddiwedd y batiad cynta’.