Llwyddodd Morgannwg i orffen eu gêm gyda buddugoliaeth ysgubol o 189 rhediad yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Stadiwm Swalec, Caerdydd heddiw.

Cafodd dynion Matthew Mott yr ymwelwyr allan am 195 wrth iddyn nhw ddathlu eu buddugoliaeth gyntaf o’r haf yn Ail Adran Pencampwriaeth Sirol LV.

Roedd Swydd Gaerloyw wedi cychwyn y diwrnod olaf ar 42 heb golled, ac angen 343 yn fwy er mwyn ennill, ond eu hunig fwriad oedd achub y gêm.

Erbyn amser cinio roedd Swydd Gaerloyw wedi cyrraedd 118 am dri, gyda Chris Taylor yn dal i mewn.

Daliodd ei dir yn y prynhawn gan gwblhau rhediad o 83 i fod y dyn olaf i syrthio ond roedd pethau’n amlwg ar ben i Swydd Gaerloyw ar ôl colli eu chwe wiced olaf am 31 rhediad mewn 10.1 pelawd.