Mae Morgannwg wedi colli eu gêm agoriadol yn nhymor Pencampwriaeth LV=, ar ôl i Swydd Caerlŷr sicrhau buddugoliaeth o 89 rhediad ar Grace Road.

Roedd angen 226 o rediadau ar y Dreigiau ar ôl dechrau’r diwrnod olaf ar 112-3.

Fe gollodd Morgannwg Michael Powell yn gynnar ar ddechrau’r chwarae gyda Nadeem Malik yn cipio wiced y batiwr am goes o flaen wiced.

Fe geisiodd Ben Wright achub Morgannwg gyda batiad ystyfnig o 65 rhediad.

Ond fe gollodd Wright sawl partner gyda Huw Waters, Mark Wallace, Robert Croft yn gadael y cris.

Fe gafodd bowliwr Swydd Caerlŷr, Jigar Naik ddiwrnod llwyddiannus gyda’r bêl wrth iddo gipio wicedi Wright, Graham Wagg a Dean Cosker i orffen gydag ystadegau o 5-36.