Mae disgwyl i hyfforddwr tîm cyntaf Morgannwg, Matthew Mott, gyrraedd Caerdydd erbyn bore dydd Mercher.

Roedd awgrymiadau na fyddai Mott ar gael tan 24 awr cyn gêm agoriadol y tymor yn erbyn Swydd Caerlŷr ddydd Gwener.

“Fe fydd Mott yn ymuno’n syth gyda’r capten Alviro Petersen a’r chwaraewyr yn yr ymarferion, cyn teithio i Gaerlŷr dydd Iau,” meddai Morgannwg mewn datganiad.

Y bwriad yn wreiddiol oedd bod Matthew Mott yn cyrraedd y wlad ddiwedd y mis diwethaf, ond roedd oherwydd problemau gyda’i visa.

Enwi carfan

Mae Morgannwg wedi enwi eu carfan 13 dyn ar gyfer y gêm agoriadol yn Grace Road ddydd Gwener.

Mae’r Dreigiau wedi enwi’r 11 chwaraewr a faeddodd tîm Prifysgolion Caerdydd o 281 rhediad ddoe.

Ond maen nhw hefyd wedi ychwanegu Jim Allenby a James Harris at y garfan fydd yn wynebu Swydd Caerlŷr.

Carfan Morgannwg

Gareth Rees, Will Bragg, Alviro Petersen, Michael Powell, Ben Wright, Jim Allenby, Graham Wagg, Mark Wallace, James Harris, Robert Croft, Dean Cosker, Adam Shantry, Huw Waters.