Mae disgwyl i gapten newydd Morgannwg chwarae ei gêm gyntaf i’r clwb yn yn erbyn tîm Prifysgolion Caerdydd yfory.

Fe gafodd Alviro Petersen ei benodi’n gapten newydd yn lle Jamie Darlymple, yn rhan o sawl newid o fewn y clwb dros y misoedd diwethaf.

Mae Jim Allenby wedi cael ei enwi yn y garfan ar ôl colli allan ar daith y Dreigiau i Dde Affrica yn dilyn llawdriniaeth.

Mae Adam Shantry hefyd yn dychwelyd wedi anaf ac fe fydd yn chwarae yn erbyn y myfyrwyr yn y gêm gyfeillgar yfory.

Fe fydd chwaraewr amryddawn newydd Morgannwg, Graeme Wagg, hefyd yn chwarae ei gêm gyntaf ar ôl symud o Swydd Derby.

Carfan Morgannwg

Gareth Rees, Will Bragg, Alviro Petersen, Michael Powell, Ben Wright, Jim Allenby, Graeme Wagg,  Mark Wallace, Robert Croft, Dean Cosker, Adam Shantry, Huw Waters.