Don Shepherd
Cafodd teyrngedau teimladwy ac emosiynol eu rhoi i Don Shepherd, cyn-gricedwr Morgannwg yn ystod noson wobrwyo Orielwyr San Helen yn Abertawe nos Lun.

Fe fu farw’r cyn-droellwr, hyfforddwr a darlledwr wythnos ar ôl ei ben-blwydd yn 90 oed ym mis Awst.

Roedd disgwyl i’r noson yng ngwesty’r Towers ar gyrion Abertawe fod yn ddathliad o’r garreg filltir honno, ac yntau’n Llywydd ar yr Orielwyr, ond cafodd ei haddasu yn dilyn ei farwolaeth.

Ar ddiwedd y noson, cafodd fideo luniau ei dangos ynghyd â gwybodaeth am ei yrfa, a’r cyfan i gyfeiliant côr yn canu ‘Myfanwy’.

“Shep, fy arwr”

 

Yn ystod teyrnged emosiynol, a gafodd ei darllen yn rhannol gan Edward Bevan yn yr angladd, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft mai ‘Shep’ oedd ei “arwr”.

Ac yntau’n un o’r to iau oedd yn bwrw eu prentisiaeth ddechrau’r 1990au, cafodd Robert Croft ei hyfforddi gan Don Shepherd, a’r ddau ohonyn nhw’n droellwyr.

Dywedodd Robert Croft fod gan Don Shepherd “amser i bawb”.

Alan Jones yn cofio “Don Shep”

Ar ddiwedd y noson wobrwyo, dywedodd Alan Jones wrth golwg360 fod Robert Croft wedi siarad “o’r galon”.

“Ry’n ni i gyd yn gwybod pa mor boblogaidd oedd [Don Shepherd] pan oedd e’n chwarae a hefyd, fe oedd Llywydd yr Orielwyr ac mae e wedi bod yn gricedwr arbennig i Forgannwg.

“Ac wrth gwrs, boi o Abertawe, o Gŵyr a doedd Shep byth wedi anghofio ’ny. Mae e’n mynd i fod yn golled fawr i Forgannwg ac i Gymru gyfan.

“Pan wyt ti’n gweld shwd gymaint o bobol â hyn yma, mae’n dangos pa mor boblogaidd oedd Don Shep. Fel oedd Robert Croft yn dweud yn gynharach, unrhyw amser roedd unrhyw gricedwr o Forgannwg angen help gyda’r bowlio, araf neu gyflym, roedd e bob amser yn barod i roi help.

“Doedd dim un amser pan oedd e wedi gofyn i Shep allai e gael gair â fe am ei fowlio fod e wedi dweud ‘Na’, a bob amser yn dweud, ‘Wrth gwrs, dere ’ma yn gynnar bore fory ac awn ni ma’s ar y cae yn bowlio.’ Dyna shwd ddyn oedd e, yn fodlon helpu rhywun.”

Myfanwy

 

Eglurodd Alan Jones beth oedd arwyddocâd y gân ‘Myfanwy’ oedd yn cael ei chwarae yn y cefndir mewn fideo luniau.

“Roedd e’n Gymro. Doedd e ddim yn siarad Cymraeg ond roedd e’n Gymro pur. Unrhyw chwaraewr o Gymru yn chwarae i Forgannwg neu’n chwarae i Loegr, roedd Shep bob amser yn hapus am hynny.

“Fi’n cofio pan oedd e’n chwarae gyda Morgannwg, yn y dyddiau hynny, roedd tîm Morgannwg gyda’i gilydd lawer mwy oherwydd roedd rhan fwya’r tîm pan o’n i a Shep yn chwarae, bois o Gymru o’n ni. Os o’t ti ddim yn chwarae criced ar ddydd Sul, ar nos Sadwrn bydden ni’n cael sing-song yn yr hotel le o’n ni’n sefyll.

“Dafydd [David] Evans o’dd yn cadw wiced yn y dyddiau cynnar ac oedd e â llais da ac o’dd e bob amser yn canu ‘Myfanwy’, a chwaraewyr Morgannwg yn joino mewn ac yn canu gyda Dafydd. O’dd Shep yn hoff iawn o’r dôn.

“Enillon ni yn erbyn Awstralia lawr yn San Helen a gawson ni gyd fynd fel tîm i’r Eisteddfod yn Abertawe a mynd lan ar y stâj, Morgannwg ac Awstralia nos Sul, a mwynhau’r noson. Y noson ’ny, fi’n cofio’r côr yn canu ‘Myfanwy’, ac o’dd hi’n ffefryn gyda rhan fwya’ chwaraewyr Morgannwg.”

John Williams yn cofio “dyn pridd Bro Gŵyr”

Yn ôl cadeirydd Orielwyr San Helen, John Williams, “dyn pridd Bro Gŵyr” oedd Don Shepherd.

“Oedd e’n browd ofnadw o’i gartre’, wedi’i eni a’i godi yma, a phawb yn ei ’nabod e, y teulu a’u siop yn Parkmill.

“Roedd Don yn foi diymhongar, ddim yn moyn ffỳs. Sdim pobol i gael fel’na heddi.”

Dathlu’n troi’n cofio

 

Er mai dathlu pen-blwydd Don Shepherd oedd y nod yn wreiddiol, dywedodd John Williams nad oes “dim byd o’i le ar ddathlu rhywun oedd wedi gwneud cymaint i Gymru ac i griced yn ein hardal ni”.

“Wrth gwrs bo ni’n hiraethu ar ôl rhywun mor ddawnus â Shep, oedd wedi rhoi popeth i’r gêm. Gewch chi ddim y bobol hyn mwyach. Dim ond un neu ddau sy ar ôl ym Morgannwg.”

Yr Orielwyr yn 2018

Mae gan John Williams un llygad ar noson wobrwyo 2018 eisoes, pan fydd Alan Jones a Tony Lewis, dau gyn-gapten Morgannwg, yn dathlu eu pen-blwydd yn 80 oed.

“Mae Alan Jones a Tony Lewis, ill dau, yn dathlu pen-blwydd mawr nesa’, a byddwn ni’n dathlu buddugoliaeth ’68 [dros Awstralia] a’r chwech chwech [gan Garry Sobers] yn erbyn Malcolm Nash.

“Ni’n gallu dangos i bobol y brwdfrydedd sydd gyda ni ar gyfer y gêm ac yn y blaen. Mae rhaid mynd rhagor o filltiroedd i gael criced yn y gorllewin. Beth sy’n digwydd i ni, os nad yw rhywun yn brwydro am y pethau hyn? Bydd e’n mynd fel trên y Mwmbwls.

“Unwaith maen nhw’n mynd, maen nhw wedi mynd am byth. Ni’n gofalu bod hyn ddim yn digwydd i griced yn Abertawe. Beth oedd Don Shepherd wedi gwneud yn ystod ei fywyd e, ein treftadaeth ni yw e. Mae tueddiad gyda phobol, a byddan nhw’n difaru, i beidio cadw pethau ar gyfer y dyfodol ac i gofio’r gorffennol.”