Fe ddaeth i’r amlwg mai cyn-filwr yn y rhyfel yn Afghanistan yw’r dyn 26 oed a gafodd anafiadau i’w wyneb yn dilyn ffrwgwd â’r cricedwyr Ben Stokes ac Alex Hales ym Mryste yr wythnos ddiwethaf.

Mae Ben Stokes ac Alex Hales wedi cael eu gwahardd gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn dilyn y digwyddiad, ar ôl iddyn nhw gael eu harestio a’u holi gan yr heddlu.

Yn ôl adroddiadau, roedden nhw wedi taro a chicio dau ddyn yn ystod y digwyddiad y tu allan i glwb nos Mbargo yn y ddinas fore Llun diwethaf.

Roedd y ddau wedi bod allan yn dathlu buddugoliaeth tîm Lloegr dros India’r Gorllewin.

Milwr

Ar ôl i luniau o’r digwyddiad ddod i’r golwg, mae’r dyn ar lawr wedi cael ei enwi.

Roedd Ryan Hale yn aelod o gatrawd y reifflwyr yn Afghanistan.

Dywedodd ei fam, Angela Hale wrth bapur newydd y Telegraph nad yw ei mab yn “ymosodol”.

Mae Ben Stokes hefyd wedi cael ei gyhuddo o sarhau mab Katie Price, Harvey sy’n dioddef o anableddau dysgu, ar ôl i fideo ymddangos ar y we.

Lluniau anweddus

Pe na bai’r honiadau am yr ymosodiad yn ddigon, mae Alex Hales yng nghanol ffrae arall ar ôl i lunio anweddus ohono ymddangos ar y we.

Cafodd y lluniau eu tynnu “flynyddoedd yn ôl”, yn ôl ffynhonnell sy’n adnabod y chwaraewr.

Mae llefarydd wedi dweud bod rhai lluniau ffug wedi ymddangos ar wefannau cymdeithasol hefyd.

Mae disgwyl i Alex Hales gael ei holi gan yr heddlu am y ffrwgwd yr wythnos nesaf.