Colin Ingram yw Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Undydd y Flwyddyn Clwb Criced Morgannwg ar gyfer tymor 2017.

Fe gafodd y gwobrau eu cyhoeddi yn ystod noson arbennig yn Stadiwm y Swalec SSE neithiwr.

Sgoriodd y batiwr llaw chwith o Dde Affrica 1,698 o rediadau yn yr holl gystadlaethau yn ystod y tymor, gan gynnwys saith canred.

Gemau ugain pelawd

Roedd e’n aelod allweddol o’r tîm yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast wrth iddyn nhw gyrraedd Diwrnod y Ffeinals am y tro cyntaf ers 13 o flynyddoedd. Tarodd e ddau ganred yn y gystadleuaeth honno, gan daro’r canred cyflymaf erioed dros Forgannwg yn erbyn Swydd Essex yn Chelmsford.

Cafodd ei enwi’n seren y gêm yn rownd yr wyth olaf wrth i’r Cymry drechu Swydd Gaerlŷr i sicrhau eu lle ymhlith y pedwar olaf yn Edgbaston, a hynny ar ôl taro 70 oddi ar 43 o belenni.

Gemau 50 pelawd

Sgoriodd Colin Ingram 564 o rediadau yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, gan gyrraedd brig tabl Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.

Roedd ei gyfanswm rhediadau’n cynnwys tri chanred, gan gynnwys 142 yn erbyn Swydd Esex yng Nghaerdydd.

Mae e hefyd wedi’i enwebu ar gyfer dwy wobr gan Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol am ei berfformiadau yn y ddwy gystadleuaeth undydd.

Gemau yn y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth, batiodd Colin Ingram am bron i ddeg awr i achub gornest yn erbyn Swydd Nottingham, gan sgorio 155 heb fod allan mewn partneriaeth allweddol gyda Chris Cooke, enillydd Gwobr Chwaraewr Gorau’r Bencampwriaeth eleni.

Yn ei dymor cyntaf fel prif wicedwr y sir, fe gipiodd e 39 o ddaliadau, a gorffen gyda chyfartaledd o bron i 45 gyda’r bat.

Adeiladodd e bartneriaeth o 168 gyda Jacques Rudolph yn erbyn Swydd Gaerwrangon ar ôl i’r tîm lithro i 56-6, ac fe sgoriodd e 113 heb fod allan mewn partneriaeth o 226 gyda Colin Ingram yn erbyn Swydd Nottingham.

Gwobrau eraill

Ar ôl cipio 35 o wicedi yn y Bencampwriaeth yn ystod ei dymor cyntaf gyda Morgannwg, cafodd Lukas Carey, y bowliwr cyflym o Bontarddulais, ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn.

Fe ddaeth i amlygrwydd y tymor diwethaf yn ei gêm gyntaf yn erbyn Swydd Northampton yn Abertawe, ac roedd e ymhlith y perfformwyr gorau unwaith eto eleni.

Kieran Bull, y troellwr, gipiodd y wobr ar gyfer Chwaraewr Gorau’r Ail Dîm, ar ôl cipio 32 o wicedi, gan gynnwys 5-61 yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

Tra bod Prem Sisodiya wedi’i enwi’n Chwaraewr Gorau’r Academi, cafodd Roman Walker ei enwi’n Chwaraewr Mwyaf Addawol yr Academi.

Derbyniodd Jacques Rudolph, y cyn-gapten sydd newydd ymddeol, wobr arbennig i nodi ei gyfraniad i’r sir dros gyfnod o bedwar tymor, ac yntau wedi arwain y sir i Ddiwrnod Ffeinals y T20 Blast.

Gwobr arbennig

Cafodd y prif hyfforddwr Robert Croft ei dderbyn i Oriel Enwogion Clwb Criced Morgannwg.

Fel troellwr amryddawn, fe sgoriodd e dros 10,000 o rediadau a chipio 1,000 o wicedi dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa.

Fe hefyd sydd ar frig rhestr y nifer fwyaf o wicedi undydd, gyda 411.

Roedd e’n aelod o’r garfan a gododd dlws Pencampwriaeth y Siroedd ugain mlynedd yn ôl, a’r garfan a gododd y tlws 50 pelawd yn 2002 ac yn gapten ar y garfan a gyflawnodd yr un gamp yn 2004.

Chwaraeodd e 71 o weithiau dros Loegr, sy’n fwy nag unrhyw chwaraewr arall yn hanes Morgannwg.