Mae tîm criced Caeriw wedi gostwng o’u hadran yng nghynghrair Sir Benfro, ond maen nhw’n cael cadw eu teitl fel pencampwyr, er i banel disgyblu eu cael yn euog o ymddwyn yn annheg.

Caeodd y tîm eu batiad ar ôl sgorio 18 rhediad am un wiced yn erbyn Creseli mewn gêm i benderfynu pa dîm fyddai’n ennill y gynghrair.

Ond roedd cau’r batiad yn gynnar yn golygu na fyddai Creseli yn gallu ennill digon o bwyntiau bonws i fod yn bencampwyr.

Mae Caeriw wedi apelio yn erbyn penderfyniad Clwb Criced Sir Benfro, sy’n rheoli’r gynghrair, i’w gostwng nhw o’r adran.

Y drosedd a’r gosb

Dydy Caeriw ddim wedi torri cyfreithiau’r gêm, ond maen nhw wedi cael eu beirniadu am ymddwyn yn groes i ysbryd criced.

Mae capten y tîm, Brian Hall wedi cael ei wahardd rhag chwarae ar ddechrau’r tymor nesaf, ac mae’r clwb wedi cael dirwy o £300.

Mae disgwyl i’r panel disgyblu ystyried yr apêl dros yr wythnosau nesaf.