Fe fydd Morgannwg yn dechrau ail ddiwrnod gêm Bencampwriaeth ola’r tymor yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint ar 18-1, ar ôl diwrnod cyntaf cymysg ddydd Llun.

Tarodd Joe Denly 152 – drydydd canred ar hugain ei yrfa dosbarth cyntaf – wrth i Swydd Gaint gael eu bowlio allan am 302 yn eu batiad cyntaf.

Oni bai am y batiad hwnnw, fe allen nhw fod wedi bod mewn trafferthion ar ôl colli pedair wiced yn ystod y sesiwn gyntaf cyn i’r batiwr sgorio’r un rhediad.

Ar ôl i Forgannwg ddewis bowlio, collodd Swydd Gaint eu dau fatiwr agoriadol o fewn 6.1 o belawdau. Ergydiodd Sean Dickson yn wyllt y tu allan i’r wiced oddi ar Michael Hogan i gynnig daliad i David Lloyd yn y slip, cyn i Daniel Bell-Drummond gynnig daliad syml i’r wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Lukas Carey.

Roedd Swydd Gaint wedi colli tair wiced pan ergydiodd y capten Sam Northeast yn wyllt y tu allan i’r ffyn a chael ei ddal yn y slip gan David Lloyd oddi ar fowlio Lukas Carey.

Ac roedden nhw’n 39-4 pan arhosodd Sam Billings ar y droed ôl a gyrru’r bêl i’r wicedwr oddi ar fowlio Ruaidhri Smith.

Sesiwn y prynhawn

Dwy belen yn unig gymerodd hi ar ôl cinio i gipio’r bumed wiced wrth i Zak Crawley yrru’r bêl oddi ar ei goesau i’r ochr agored ac i ddwylo diogel Craig Meschede oddi ar fowlio’r capten Michael Hogan.

Cwympodd y chweched wiced yn fuan wedyn, wrth i Michael Hogan daro coes Darren Stevens, un o dri chricedwr 41 oed sy’n dal i chwarae.

Ychwanegodd Joe Denly a Calum Haggett 87 am y seithfed wiced cyn te, cyn i David Lloyd daro coes Haggett o flaen y wiced.

57 oedd y bartneriaeth rhwng Joe Denly ac Adam Milne am yr wythfed wiced, a hynny ar ôl i Milne gael ei ollwng gan Connor Brown ar 28. Ond fe gollodd y batiwr ei wiced yn fuan wedyn wrth ddarganfod dwylo David Lloyd yn y slip oddi ar fowlio Craig Meschede.

Cyrhaedodd Joe Denly ei 150 wrth sgorio 10,000fed rhediad ei yrfa dosbarth cyntaf, a hynny oddi ar 200 o belenni yn y batiad. Ond fe gafodd ei fowlio gan David Lloyd wrth gamu i lawr y llain.

Cwympodd y wiced olaf toc ar ôl 5 o’r gloch pan gafodd Imran Qayyum ei ddal gan Nick Selman yn y slip oddi ar fowlio Michael Hogan, a orffennodd gyda phedair wiced am 44.

Ymateb Morgannwg

2.2 o belawdau’n unig barodd Nick Selman ar ddiwedd y dydd cyn iddo fe gael ei ddal gan y wicedwr Sam Billings oddi ar fowlio Adam Milne heb sgorio.

Y pâr o Gymry ifainc, Jack Murphy a Connor Brown sydd wrth y llain i Forgannwg, ac maen nhw’n 18-1.

Sgorfwrdd