David Lloyd
Mae’r chwaraewr amryddawn o Lanelwy, David Lloyd wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer gêm ola’r tymor yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint.

Dyw e ddim wedi chwarae i’r tîm cyntaf ers y gêm ugain pelawd yn erbyn Swydd Essex yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf ar ôl rhwygo cyhyrau yn ei fraich.

Dyw’r bowliwr cyflym o Dde Affrica, Marchant de Lange ddim wedi cael ei gynnwys ar gyfer y gêm hon, ac mae Colin Ingram, sy’n ymddeol o’r gêm bêl goch ar ddiwedd y tymor, yn parhau i orffwys ar ôl anafu ei ochr.

Fe fydd y Cymry ifainc, Andrew Salter a Kiran Carlson yn awyddus i adeiladu ar berfformiadau campus yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i’r ddau gyrraedd eu sgôr unigol gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf yn erbyn Swydd Gaerloyw – a Carlson yn dod o fewn naw rediad o fod y chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred dwbl dros y sir.

Y Cymry

Maen nhw ymhlith wyth chwaraewr o Gymru yn y garfan o 12 ar gyfer y gêm, ynghyd â Conor Brown, Jack Murphy, Aneurin Donald, Ruaidhri Smith, Lukas Carey a David Lloyd.

Yn ôl y capten Michael Hogan, mae nifer y Cymry yn y garfan yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol, yn enwedig ar ôl y perfformiadau yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.

“Roedd hi’n braf gweld y Cymry ifainc yn perfformio cystal a gyda’r Cymry ifainc eraill yn dod drwy’r system, mae’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.

“Roedd arwyddion da o ran ein batwyr yn y gêm ddiwethaf, ond cysondeb sy’n bwysig a gobeithio y gallan nhw barhau â’u perfformiadau yn erbyn Swydd Gaint a’r flwyddyn nesaf.”

Jacques Rudolph

Does dim lle yn y garfan i Jacques Rudolph, sy’n ymddeol ar ddiwedd y tymor, 175 o rediadau’n brin o 20,000 yn ei yrfa dosbarth cyntaf.

Wrth geisio rhoi cyfle i’r chwaraewyr iau, mae Morgannwg wedi gwrthod y demtasiwn o alw ar eu capten am un gêm olaf.

Meddai Michael Hogan: “Mae e wedi cael effaith bositif ac mae e wedi gwyrdroi’r diwylliant, ond fe gafodd [y Prif Weithredwr] Hugh Morris sgwrs gyda Jacques, ac fe fyddai’n annheg ar Jacques pe baen ni’n ei ffonio fe oherwydd yr anafiadau hyn a dweud, “Gyda llaw, ddoi di’n ôl?”

Swydd Gaint

Mae Swydd Gaint yn ddi-guro yn eu pum gêm flaenorol yn erbyn Morgannwg, a dydyn nhw ddim wedi colli ers 2011.

Maen nhw hefyd yn ddi-guro yn eu 12 gêm ddiwethaf yng Nghaergaint, a dydyn nhw ddim wedi colli yno ers mis Awst 2015.

Mae’r Awstraliad 23 oed Grant Stewart yn chwarae yn ei gêm gyntaf dros Swydd Gaint.

Swydd Gaint: D Bell-Drummond, S Dickson, J Denly, S Northeast (capten), Z Crawley, S Billings, D Stevens, C Haggett, A Milne, G Stewart, Imran Qayyum

Morgannwg: N Selman, C Brown, J Murphy, K Carlson, C Cooke, A Salter, C Meschede, R Smith, L Carey, M Hogan (capten), D Lloyd

Sgorfwrdd