Fe fydd Morgannwg yn dechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth gyntaf yng Nghaerdydd ers tri mis am 12 o’r gloch heddiw, 148 o rediadau ar y blaen i Swydd Northampton.

Fe fu oedi am awr a hanner ben bore.  

Fe fu’n rhaid i’r bowlwyr Andrew Salter a Craig Meschede eu hachub nhw gyda’r bat ar y diwrnod cyntaf, a hynny gyda phartneriaeth o 97 ar ôl i Forgannwg golli eu chwe wiced cyntaf am 102.

Llwyddodd y Cymry i gyrraedd 207 cyn colli eu holl wicedi, wrth i Andrew Salter sgorio 59, ei drydydd hanner canred y tymor hwn, ac fe ychwanegodd Craig Meschede 49 at y cyfanswm.

Dechrau siomedig

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, cafodd Morgannwg y dechrau gwaethaf posib wrth iddyn nhw gyrraedd 75-3 erbyn amser cinio, ar ôl colli eu wiced gyntaf o fewn dwy belawd gynta’r gêm. Wrth i Richard Gleeson fowlio pelen syth, fe gododd Jacques Rudolph ei fat i’r awyr heb gynnig ergyd a chael ei fowlio.

Roedd unrhyw obaith o lwyddiant cynnar, felly, yn nwylo’r pâr ifanc, Nick Selman a Jack Murphy ac roedden nhw’n dechrau dangos arwyddion addawol pan wnaeth Muhammad Azharullah ddarganfod ymyl bat Selman i roi daliad i’r capten Alex Wakely yn y slip. 

Doedd hi ddim yn hir cyn i Jack Murphy ddychwelyd i’r pafiliwn hefyd, wrth i’r un bowliwr daro’i goes o flaen y wiced am 12, a Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion ar 36-3.

Roedd Colin Ingram a’r Cymro ifanc Kiran Carlson wedi ychwanegu 39 at y cyfanswm erbyn i’r chwaraewyr adael y cae am y tro cyntaf oherwydd y glaw, ac fe ddaeth y sesiwn i ben am ginio cynnar gyda Morgannwg yn 75-3.

Y wicedi’n parhau i gwympo

Un belen yn unig barodd Colin Ingram ar ôl cinio, wrth i’r wicedwr David Murphy ei ddal ar ôl i’r slip Rory Kleinveldt fethu â dal ei afael ar y bêl.

Dilynodd Kiran Carlson yn fuan wedyn, wrth i Richard Gleeson daro’i goes o flaen y wiced am 10.

Cafodd Chris Cooke ei ddal gan y wicedwr David Murphy oddi ar fowlio Richard Gleeson cyn i’r glaw ddod am yr ail waith, a Morgannwg yn 102-6. Gyda’r wiced honno, daeth Andrew Salter a Craig Meschede at ei gilydd wrth y llain.

Y bartneriaeth dyngedfennol

Cymerodd hi ugain munud i Craig Meschede sgorio’i rediadau cyntaf ac wrth fynd amdanyn nhw, fe fu bron iddo fe gael ei ddal yn y slip cyn i’r bêl fynd yr holl ffordd i’r ffin am bedwar.

Ond yr ymwelwyr oedd dan bwysau yn fuan wedyn wrth iddyn nhw wastraffu sawl cyfle i gipio wicedi ar ôl i’r batwyr ddechrau dangos ychydig o rwystredigaeth.

Fe fu’n rhaid i Andrew Salter gicio’r bêl i ffwrdd o’r wiced oddi ar fowlio Rory Kleinveldt cyn i Richard Levi ollwng y bêl yn y slip oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Simon Kerrigan, a Craig Meschede yn goroesi y tro hwn.

Cyrhaeddodd Andrew Salter ei hanner canred oddi ar 100 o belenni cyn i Simon Kerrigan gipio dwy wiced mewn pelawd. Cafodd Craig Meschede ei stympio un rhediad yn brin o’i hanner canred cyn i Marchant de Lange gael ei fowlio, a Morgannwg wedi llithro unwaith eto i 205-8.

Cafodd Lukas Carey ei fowlio gan Richard Gleeson heb sgorio cyn i’r bowliwr gipio’i bumed wiced pan gafodd Andrew Salter ei ddal ar ochr y goes wrth ergydio’n syth i Rory Kleinveldt, a Morgannwg i gyd allan am 207.

Ymateb yr ymwelwyr

Dechreuodd batwyr Swydd Northampton yn gadarn wrth iddyn nhw gyrraedd 24 oddi ar 4.2 o belawdau. Ond cafodd Ben Duckett ei ddal gan Jack Murphy ar ochr y goes oddi ar fowlio Lukas Carey am 11.

Collon nhw eu hail wiced ar 49 pan yrrodd David Murphy i Kiran Carlson ar yr ochr agored oddi ar fowlio’r capten Michael Hogan am naw.

Ychwanegodd Rob Newton (31 heb fod allan) a Richard Levi (2 heb fod allan) ddeg rhediad at y cyfanswm cyn i’r chwaraewyr adael y cae oherwydd golau gwael. Tra bod y chwaraewyr yn ôl yn y pafiliwn, fe ddaeth y glaw i roi terfyn ar y diwrnod cyntaf o griced.