Wrth i Forgannwg groesawu Swydd Northampton i Gaerdydd heddiw, fe fydd y Cymry’n cynnal eu gêm Bencampwriaeth gyntaf yn y brifddinas ers mis Mehefin.

Roedden nhw o dan y llifoleuadau bryd hynny ar gyfer y gêm arbrofol yn erbyn Swydd Derby, a cholli oedd eu hanes nhw.

Byddan nhw’n ceisio gwneud yn iawn am y golled honno ac am y golled yn eu gêm Bencampwriaeth flaenorol oddi cartref yn erbyn Swydd Northampton yn ystod wythnos gynta’r tymor.

Kiran Carlson

Ac fe fydd y batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson yn herio’r tîm y cipiodd e bum wiced yn eu herbyn nhw y tymor diwethaf wrth iddo fe gael cyfle prin gyda’r bêl.

Cafodd Morgannwg gêm gyfartal yr wythnos diwethaf yn erbyn Swydd Derby yn dilyn tridiau o law, ond roedd arwyddion gobeithiol yn eu perfformiad, yn ôl Kiran Carlson.

“Maen nhw wedi gwneud yn well na ni yn rhai o’r gemau blaenorol yn eu herbyn nhw ond o’r hyn ry’n ni wedi bod yn gwneud yn ddiweddar, dwi ddim yn meddwl bod y canlyniadau da yn bell i ffwrdd.

“Hyd yn oed yn Derby, fe wnaethon ni fowlio’n dda. Collon ni sawl cyfle, ond doedden ni ddim yn bell o’u bowlio nhw allan am 150-160 o rediadau ac ym Mae Colwyn gyda thîm ifanc, fe lwyddon ni i wthio tîm cryf Swydd Sussex.

“Os gallwn ni asio’r perfformiadau hynny, dw i’n meddwl y gallwn ni gael buddugoliaeth yn erbyn Swydd Northampton.”

Dysgu wrth fynd ymlaen

Mae’r cyfleoedd gafodd Kiran Carlson yn y tîm cyntaf wedi ei helpu fe i ddatblygu ei gêm wrth fynd ymlaen, meddai.

Ac mae e wedi dod yn bell ers cipio pum wiced yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton y tymor diwethaf. Ar ôl y gêm honno, fe dorrodd e’r record i fod y chwaraewr ieuengaf erioed yn hanes y sir i daro canred, a hynny yn erbyn Swydd Essex, ac yntau ond yn 18 oed ar y pryd.

“Mae’r tymor yma wedi bod yn mynd i fyny ac i lawr ond dw i’n teimlo ’mod i’n dysgu bob wythnos o gael chwarae gyda bois fel Colin Ingram a Jacques Rudolph a bod o’u cwmpas nhw, a’r bowlwyr fel Michael Hogan a Marchant de Lange.”

“Dw i’n dysgu bob dydd. Os bydda i’n treulio mwy o amser gyda’r garfan, fe fydda i’n dysgu mwy ac yn dod yn well gricedwr.”

Y gwrthwynebwyr

Mae batwyr Swydd Northampton wedi elwa’n ddiweddar o gael gweithio gyda David Sales, cyn-gapten y sir oedd wedi sgorio 13,459 o rediadau dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa.

Mae ganddyn nhw obaith o hyd o gael dyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth y tymor nesaf ar ôl ennill pwyntiau batio llawn am y tro cyntaf y tymor hwn wrth iddyn nhw guro Swydd Sussex yr wythnos diwethaf.

A bydd y batwyr yn allweddol wrth i Swydd Northampton anelu am dair buddugoliaeth allan o dair ar ddiwedd y tymor i sicrhau’r dyrchafiad.

Morgannwg: J Rudolph, N Selman, J Murphy, C Ingram, K Carlson, C Cooke, A Salter, C Meschede, M de Lange, L Carey, M Hogan (capten)

Swydd Northampton: Muhammad Azharullah, J Cobb, B Duckett, R Gleeson, R Keogh, R Kleinveldt, S Kerrigan, R Levi, D Murphy, R Newton, A Wakely (capten)

Sgorfwrdd