Ar ôl deuddydd o dywydd garw yn Derby, fe ddechreuodd yr ornest yn ail adran y Bencampwriaeth rhwng Swydd Derby a Morgannwg ar y trydydd diwrnod.

Ond gêm gyfartal yw’r canlyniad mwyaf tebygol ar y diwrnod olaf heddiw.

Y bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey oedd y seren i Forgannwg gyda’r bêl wrth iddo gipio tair wiced – a’r maeswyr wedi gollwng tri daliad arall oddi ar ei fowlio.

Roedd y Saeson yn 236-9 pan ddaeth y gêm i ben am y diwrnod toc ar ôl amser te mewn golau gwael.

Dechrau da i Forgannwg

Ar ddiwrnod rhwystredig i fatwyr Swydd Derby, dim ond Luis Reece (53), Gary Wilson (45) ac Alex Hughes (44) oedd wedi creu argraff gyda’r bat.

Y bowliwr cyflym o Dde Affrica, Marchant de Lange oedd wedi creu’r argraff fwyaf yn gynnar yn y dydd, wrth iddo fe gipio dwy wiced i roi Morgannwg mewn sefyllfa gref.

Ar ôl i Luis Reece gael ei ollwng oddi ar fowlio Carey, fe darodd y bowliwr goes Ben Slater o flaen y wiced cyn i Reece oroesi cyfle arall wrth i Nick Selman ollwng y bêl yn y slip.

Swydd Derby yn taro’n ôl

Cafodd Billy Godleman ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke ar ôl i Craig Meschede daro ymyl ei fat, ond fe darodd Swydd Derby yn ôl gyda phartneriaeth o 46 rhwng Luis Reece a Wayne Madsen.

Ond camergyd oedd yn gyfrifol am wiced Wayne Madsen, wrth iddo fe ddarganfod dwylo diogel Kiran Carlson yn sgwâr ar  yr ochr agored. Ac fe ddilynodd Luis Reece yn fuan wedyn, wrth iddo fe gael ei fowlio gan Marchant de Lange toc cyn cinio.

Yr adferiad yn parhau ar ôl cinio

Ychwanegodd Alex Hughes a Gary Wilson 78 am y bumed wiced cyn i Hughes ddarganfod y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Lukas Carey.

Cafodd Gary Wilson ei ollwng ddwywaith o fewn tair pelawd cyn i Carey daro’i goes o flaen y wiced. Roedd y batiwr eisoes wedi goroesi cyfle am ddaliad i Nick Selman yn y slip ar 14, ac yna i Andrew Salter yn sgwâr ar yr ochr agored am 17.

Cafodd Harry Podmore a Hardus Viljoen eu bowlio gan Michael Hogan, ac Imran Tahir oedd y nawfed batiwr allan am bedwar cyn i’r golau gwael orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae, a’r sgôr yn 236-9.