Fe fydd tîm criced Lloegr yn dychwelyd i Gaerdydd yn 2018 ar gyfer gêm 50 pelawd yn erbyn Awstralia a gêm ugain pelawd yn erbyn India.

Bydd Lloegr ac Awstralia yn chwarae yn erbyn ei gilydd mewn cyfres o un gêm ugain pelawd, a phum gêm undydd, a’r ail ohonyn nhw yn y brifddinas ar ddydd Sadwrn, Mehefin 16 (11 o’r gloch).

Ym mis Gorffennaf, India fydd gwrthwynebwyr y Saeson mewn cyfres o dair gêm ugain pelawd, pum gêm brawf a thair gêm 50 pelawd. Bydd yr ail gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd ar Orffennaf 6 (5.30pm). 

Bydd tocynnau ar gyfer y ddwy gêm ar werth o ddydd Mawrth, Hydref 10, gyda blaenoriaeth i aelodau Morgannwg.

‘Dilyniant anferth’

Wrth gyfeirio at y gemau rhwng Lloegr ac India, dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Tom Harrison: “Mae hon yn gystadleuaeth y mae llawer o edrych ymlaen ati ac sy’n denu dilyniant anferth ar draws y byd.

“Mae gan gemau prawf ddilyniant cryf, cyson ac angerddol ledled Cymru a Lloegr…”

Lloegr v Awstralia, dydd Sadwrn, Mehefin 16 (11 o’r gloch)

Lloegr v India, nos Wener, Gorffennaf 6 (5.30pm