Fe gafodd capten tîm criced Swydd Nottingham, Dan Christian fwy na dim ond tlws ar ôl i’w dîm ennill cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yn Edgbaston neithiwr.

Wrth iddo aros i dderbyn y tlws ar y podiwm ar ôl trechu’r Birmingham Bears o 22 o rediadau, roedd ei dîm eisoes yn dathlu y tu ôl iddo, a’r poteli siampên wedi’u hagor.

Wrth geisio rhuthro oddi ar y podiwm, cafodd y tlws ei gyflwyno iddo, a’r un oedd yn gyfrifol am ei drosglwyddo i’r capten buddugol wedi ei daro yn ei wyneb.

Ar ôl y seremoni, fe wnaeth Dan Christian droi at ei dudalen Twitter i ddiolch am ei lygad ddu: