Ar ôl arwain tîm criced Morgannwg am y tro olaf yn Niwrnod Ffeinals y T20 Blast yn Edgbaston ddoe, mae Jacques Rudolph wedi dweud iddo gael “gyrfa eithaf da”.

Ac mae’n darogan dyfodol disglair i rai o’r Cymry ifainc yn y garfan.

Fe fydd y batiwr o Dde Affrica yn rhoi’r gorau i’w yrfa ar ddiwedd y tymor.

Collodd Morgannwg o 11 o rediadau yn erbyn y Birmingham Bears yn y rownd gyn-derfynol cyn i Swydd Nottingham fynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth ugain pelawd.

‘Emosiynol’

Dywedodd Jacques Rudolph: “Dw i wedi mwynhau, a dw i’n credu ’mod i wedi cael gyrfa eitha’ da.

“Ro’n i’n eitha’ emosiynol pan gerddais i oddi ar y cae, a bod yn onest.

“Ond o safbwynt y tîm, gallwn ni ymfalchïo yn y ffordd yr aeth yr ymgyrch a’r ffordd y gwnaethon ni chwarae criced.”

Fe ddywedodd ei fod yn falch o “gymeriad” y garfan fach o chwaraewyr sydd wedi eu cynnal drwy gydol yr ymgyrch undydd.

Y Cymry ifainc

Ac mae’n edrych ymlaen at weld rhai o Gymry ifainc Morgannwg yn torri drwodd yn y dyfodol.

Roedd pum Cymro yn y garfan ar gyfer y diwrnod ac un ohonyn nhw, Andrew Salter, wedi batio’n ddewr i sgorio 27 tua diwedd y gêm i gadw gobeithion Morgannwg yn fyw, er iddyn nhw golli o 11 o rediadau yn y pen draw.

“Dim ond criw bach o chwaraewyr sydd gyda ni i weithio gyda nhw, ac ry’n ni wedi dangos cryn dipyn o gymeriad eleni.

“O edrych y tu hwnt i’r tymor hwn ac i’r dyfodol, dw i’n credu bod yna dalentau ifainc o Gymru yma.

“Pe bai’r clwb yn gallu cael cymysgedd o chwaraewyr mwy profiadol iddyn nhw gael dysgu ganddyn nhw, fe fydd yna chwaraewr mawr ym Morgannwg.”