Swydd Nottingham yw pencampwyr cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast eleni ar ôl curo’r Birmingham Bears o 22 o rediadau ar eu tomen eu hunain yn y rownd derfynol yn Edgbaston.

Tarodd Brendan Taylor 65 oddi ar 49 o belenni, ac roedd Samit Patel heb fod allan wrth i Swydd Nottingham sgorio 190-4. Cipiodd Chris Woakes dair wiced am 29 i Birmingham.

Roedd y nod yn ormod i Birmingham wrth iddyn nhw orffen ar 168-8, er bod Sam Hain wedi sgorio 72.

Cipiodd Harry Gurney bedair wiced am 17, ac roedd dwy wiced i Jake Ball am 26.

Cafodd 1,012 o rediadau eu sgorio yn ystod y dydd.

Manylion

Adeiladodd Brendan Taylor a Samit Patel bartneriaeth o 132 mewn 13.2 o belawdau wrth i Swydd Nottingham sgorio 190-4 ar ôl cael eu gwahodd i fatio.

Tarodd Brendan Taylor 65 oddi ar 49 o belenni, gan daro naw pedwar ac un chwech, ac fe sgoriodd Samit Patel 64 heb fod allan oddi ar 42 o belenni, gan gynnwys pedwar pedwar a phedwar chwech.

Dan Christian oedd y batiwr arall wrth y llain ar y diwedd, wrth iddo daro 24 oddi ar wyth pelen, gan gynnwys dau bedwar a dau chwech.

Roedd Swydd Nottingham yn 44-3 ar ddiwedd y cyfnod clatsio ar ôl i’r bowliwr cyflym Chris Woakes achosi pryder iddyn nhw’n gynnar yn y batiad.

Cafodd Alex Hales ei fowlio am saith ar ôl 2.3 o belawdau, ac fe ddaeth ail wiced i’r bowliwr yn yr un belawd wrth i Tom Moores gael ei ddal ar ochr y goes gan Dominic Sibley, heb fod y batiwr wedi sgorio.

Daeth y drydedd wiced wrth i Rikki Wessels ddarganfod y wicedwr Tim Ambrose am 19 yn y bumed pelawd, a Swydd Nottingham erbyn hynny’n 30-3.

Collodd Brendan Taylor ei wiced yn y belawd olaf ond un wrth i’w dîm orffen ar 190-4. Cipiodd Chris Woakes dair wiced am 29 yn ei bedair pelawd.

Ymateb Birmingham

Wrth gwrso 191 am y fuddugoliaeth a’r gwpan, collodd Birmingham eu wiced gyntaf o fewn dwy belawd wrth i Dominic Sibley gael ei fowlio gan Harry Gurney am ddwy. Cafodd Ed Pollock ei redeg allan gan Samit Patel am 14 yn yr un belawd a Birmingham yn 20-2 ar ôl tair pelawd.

Roedd Birmingham yn 36-3 pan gafodd Adam Hose ei fowlio gan Jake Ball am saith yn y chweched pelawd, gan orffen y cyfnod clatsio ar 38-3, chwe rhediad y tu ôl i’w gwrthwynebwyr ar yr un pryd, ond wedi colli’r un nifer o wicedi.

Grant Elliott oedd y batiwr nesaf allan, a hynny ar ôl i Dan Christian daro’i goes o flaen y wiced yn y nawfed pelawd a Birmingham yn 63-4. Roedden nhw’n 72-4 erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, un rhediad y tu ôl i sgôr cyfatebol Swydd Nottingham, ond wedi colli un wiced yn fwy.

Cyrhaeddodd Sam Hain ei hanner canred oddi ar 27 o belenni ar ôl taro pedwar pedwar a thri chwech, ond roedd gobeithion ei dîm yn pylu yn y drydedd pelawd ar ddeg. Collodd Colin de Grandhomme ei wiced ddechrau’r bymthegfed pelawd wrth iddo gael ei fowlio gan Harry Gurney am 27, a’i dîm yn 118-5.

Ymdrech hwyr yn ofer

Llwyddodd bowlwyr Swydd Nottingham i fowlio’n dynn fel bod angen 59 o rediadau o hyd ar Birmingham oddi ar 24 o belenni wrth i’r gêm a’r diwrnod dynnu tua’u terfyn.

Tarodd Aaron Thomason ddau chwech anferth – un ar ochr y goes a’r llall yn syth dros ben y bowliwr Dan Christian yn yr ail belawd ar bymtheg fel bod angen 43 oddi ar y tair pelawd olaf.

Roedd Birmingham yn 157-6 ar ddechrau’r bedwaredd pelawd ar bymtheg wrth i Sam Hain gael ei ddal gan Dan Christian oddi ar fowlio Harry Gurney am 72. Roedd e wedi wynebu 44 o belenni, gan daro pum pedwar a thri chwech.

Collodd Birmingham eu seithfed wiced wrth i Aaron Thomason fachu’n syth i’r awyr a’r wicedwr Tom Moores yn ei dal hi oddi ar fowlio Gurney am 26, a’i dîm yn 160-7. Cwympodd yr wythfed wiced ar 166 wrth i Jeetan Patel gael ei fowlio gan Jake Ball am bedwar.

Roedd gan Birmingham ormod i’w wneud yn y pen draw ac fe gollon nhw o 22 o rediadau.