Er i’r capten Jacques Rudolph sgorio 65 – sgôr unigol gorau’r gêm – mae Morgannwg wedi colli eu gêm gyn-derfynol yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast o 11 o rediadau yn erbyn y Birmingham Bears.

Doedd ymdrechion Andrew Salter wrth iddo daro 27 oddi ar 13 o belenni tua’r diwedd ddim yn ddigon i’r Cymry wrth iddyn nhw golli wicedi’n gyson yn ystod y gêm.

Cipiodd Chris Woakes dair wiced am 40 ac roedd tair wiced hefyd i Olly Stone am 29 wrth i fatwyr Morgannwg chwalu.

Manylion

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, Birmingham gafodd y gorau o’r pelawdau agoriadol wrth i Ed Pollock glatsio o’r belawd gyntaf un, a’i bartner Dominic Sibley heb sgorio tan y drydedd pelawd. Cyrhaeddon nhw’r hanner cant o fewn pum pelawd, a Pollock erbyn hynny’n 47 heb fod allan.

23 o belenni’n unig gymerodd hi i Ed Pollock gyrraedd ei hanner canred, a hynny ar ôl bwrw pum pedwar a phedwar chwech i roi Morgannwg dan bwysau yn y cyfnod clatsio, a Birmingham yn 65-1 ar ôl y chwe phelawd agoriadol.

Ond daeth ail wiced i Forgannwg yn y seithfed pelawd, wrth i Adam Hose yrru at Aneurin Donald ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio Craig Meschede, a Birmingham yn 68-2.

Dominic Sibley oedd y trydydd batiwr allan ar ôl 9.2 o belawdau, wrth iddo dynnu i gyfeiriad David Miller ar ochr y goes oddi ar fowlio’r troellwr coes Colin Ingram am 27, a Birmingham yn 83-3 wrth nesáu at hanner ffordd drwy’r batiad.

Cynyddu wnaeth y pwysau ar y Saeson wrth i Craig Meschede daro coes Sam Hain o flaen y wiced am naw, a Birmingham yn 93-4 ar ôl 10.2 o belawdau. Gorffennodd y bowliwr gyda dwy wiced am 24 yn ei bedair pelawd.

Partneriaeth beryglus

Roedd y pâr o Seland Newydd, Grant Elliott a Colin de Grandhomme yn edrych yn beryglus ar ôl ychwanegu 46 am y bumed wiced.

Ond tarodd Elliott ergyd wael a darganfod dwylo diogel Craig Meschede oddi ar fowlio Michael Hogan am 32, a Birmingham yn 139-5 ar ôl 16 pelawd.

Roedd Birmingham yn 162-5 pan dynnodd Grant Elliott i Aneurin Donald ar y ffin oddi ar fowlio Marchant de Lange yn y bedwaredd pelawd ar bymtheg, a’r tîm ‘cartref’ dan bwysau unwaith eto yn niwedd y batiad.

Morgannwg yn taro’n ôl

Roedd Colin de Grandhomme allan ddiwedd y bedwaredd pelawd ar bymtheg wrth daro ergyd syth i lawr corn gwddf Aneurin Donald oddi ar fowlio Marchant de Lange am 30, a Birmingham yn 164-6.

Ond roedd y cyffro go iawn oddi ar dair pelen ola’r batiad.

Cafodd Aaron Thomason ei redeg allan gan David Miller am 17 ar ôl 19.4 pelawd. Cafodd Jeetan Patel ei ddal gan David Miller oddi ar fowlio Michael Hogan oddi ar belen olaf ond un y batiad, a Chris Woakes wedi’i redeg allan gan Andrew Salter oddi ar belen ola’r batiad wrth i Birmingham orffen ar 175-9.

Ymateb y Cymry

Wrth gwrso 176 i ennill, bedair pelen yn unig gymerodd hi i Forgannwg golli eu wiced gyntaf wrth i Aneurin Donald dynnu’r bêl at Sam Hain oddi ar fowlio Chris Woakes, a’r Cymry’n 13-1 ar ddiwedd y belawd gyntaf.

Roedden nhw wedi cyrraedd 31 pan darodd Colin Ingram ergyd fawr i gyfeiriad Grant Elliott ar y ffin oddi ar fowlio Olly Stone, a Birmingham wedi cael eu wiced fawr gyntaf yn y bedwaredd pelawd. Ar 39-3, roedd David Miller allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Tim Ambrose oddi ar fowlio Aaron Thomason heb sgorio.

Roedd rhagor o newyddion drwg i Forgannwg wrth i Kiran Carlson gael ei ddal gan y wicedwr Ambrose oddi ar fowlio Olly Stone am dri, a’r Cymry’n gorffen y cyfnod clatsio ar 48-4.

Gobeithion yn pylu

Wrth i Birmingham barhau i roi pwysau ar Forgannwg, daeth eu pumed wiced yn y nawfed pelawd, wrth i Chris Cooke gael ei ddal gan Dominic Sibley oddi ar fowlio Grant Elliott am 10 wrth daro ergyd i’r awyr oddi ar ei goesau, a Morgannwg yn 67-5.

Cyrhaeddodd y capten Jacques Rudolph ei hanner canred oddi ar 30 o belenni ar ôl taro saith pedwar ac un chwech, ac roedd Morgannwg yn 76-5 ar ôl 11 pelawd. Fe roddodd lygedyn o obaith i’r Cymry wrth sefydlu partneriaeth gyda chyn-chwaraewr amryddawn Swydd Warwick, Graham Wagg ac roedd angen 64 arnyn nhw oddi ar y chwe phelawd olaf.

Cafodd Jacques Rudolph ei redeg allan wrth ymlwybro allan o’r llain yn esgeulus ac roedd Morgannwg mewn trafferth unwaith eto ar 117-6 yn y bymthegfed pelawd. Ac roedd Graham Wagg allan pan darodd y bêl yn syth ar yr ochr agored a chael ei ddal gan Grant Elliott oddi ar fowlio Chris Woakes am 25, a Morgannwg yn 120-7.

Cwympodd yr wythfed wiced pan darodd Craig Meschede y bêl at Sam Hain yn syth i lawr y cae oddi ar fowlio Aaron Thomason am un, a Morgannwg yn 127-8.

Ymdrech ddewr tua’r diwedd

150-9 oedd hi pan gafodd Marchant de Lange ei fowlio gan Olly Stone.

Roedd angen 26 ar Forgannwg yn y belawd olaf, ond fe gollon nhw yn y pen draw o 11 o rediadau er i Andrew Salter lwyddo i sgorio 27 oddi ar 13 o belenni. Roedden nhw i gyd allan pan gafodd Salter ei ddal gan Sam Hain oddi ar fowlio Chris Woakes.