Mae Swydd Sussex wedi curo Morgannwg ar ddiwedd gêm gyffrous yn ail adran y Bencampwriaeth yn Llandrillo yn Rhos.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y Saeson gam yn nes at ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf.

Cymerodd hi lai na thridiau i’r Saeson sicrhau’r fuddugoliaeth, ond daeth Morgannwg o fewn un wiced o ennill eu gêm flynyddol yn y gogledd.

Roedd angen 209 o rediadau ar y Saeson i ennill yn eu hail fatiad, ac roedden nhw mewn dyfroedd dyfnion ar 179-9 ar ôl i’r capten Michael Hogan ddarganfod coes Jofra Archer o flaen y wiced.

Ond tarodd Ollie Robinson 41 heb fod allan wrth adeiladu partneriaeth o 32 gyda Danny Briggs, a daeth y fuddugoliaeth gyda chwech anferth.

Manylion

Roedd Morgannwg yn 126-6 yn eu hail fatiad ar ddechrau’r trydydd diwrnod, 152 o rediadau ar y blaen i’r Saeson.

Roedd Tom Cullen a’r chwaraewr amryddawn Craig Meschede wedi adeiladu partneriaeth o 52 pan gafodd Cullen ei ddal gan Luke Wright oddi ar fowlio Chris Jordan am 22, a Morgannwg yn 156-7.

Daeth wythfed wiced yn fuan wedyn, wrth i Ruaidhri Smith ddarganfod dwylo diogel y wicedwr Ben Brown oddi ar fowlio Jordan unwaith eto toc ar ôl i Forgannwg ymestyn eu mantais i 200.

Cwympodd y nawfed wiced wrth i Lukas Carey gael ei ddal gan Danny Briggs wrth geisio bachu Jofra Archer, a’r sgôr yn 181-9.

Craig Meschede oedd y batiwr olaf allan ac roedd e wedi sgorio 41 pan darodd e’r bêl yn ôl at y bowliwr Chris Jordan, a’i dîm i gyd allan am 182.

Cwrso

209 oedd y nod i Swydd Sussex, ond roedd llygedyn o obaith i Forgannwg wrth i Luke Wells gael ei ddal gan Tom Cullen oddi ar fowlio Lukas Carey heb sgorio, a’r bowliwr yn cofnodi pelawd ddi-sgôr ag ynddi wiced.

Cafodd Stiaan van Zyl ail gyfle pan gafodd ei ollwng gan Aneurin Donald oddi ar fowlio Lukas Carey, ond doedd ei bartner Gus Robson ddim mor ffodus, wrth iddo gael ei fowlio gan Michael Hogan am saith wrth fethu â chynnig ergyd i belen syth.

Erbyn amser cinio, roedd y Saeson yn 14-2, 195 o rediadau’n brin o’r nod, ac yn dechrau dangos arwyddion o nerfau.

Sesiwn y prynhawn

Cyrhaedodd Chris Nash ei hanner canred yn fuan ar ôl yr egwyl ac erbyn hynny, roedd e wedi ychwanegu 90 o rediadau yn ei bartneriaeth â Stiaan van Zyl.

Ond rhedodd ei bartner a’i dîm allan o lwc am y tro pan gipiodd y troellwr ddwy wiced mewn dwy belen. Fe darodd e goes van Zyl o flaen y wiced, ac roedd e allan am 38 a’r sgôr bellach yn 100-3.

Oddi ar ei belen gyntaf, camodd Luke Wright i lawr y llain a cael ei stympio gan Tom Cullen, a’i dîm yn 100-4.

Ail wynt?

Ond roedd tro ar fyd i’r ymwelwyr wrth i Ben Brown, y capten, gael ei ollwng gan Andrew Salter oddi ar fowlio Craig Meschede, cyn i Nick Selman ei ollwng hefyd ar 31.

Fe gymerodd ddoniau’r eilydd o faeswr Zac Ringrose i waredu’r batiwr yn y pen draw ond erbyn i Lukas Carey gipio’r wiced, roedd e eisoes wedi sgorio 57 wrth i’w dîm glosio at y fuddugoliaeth ar 155-5.

Y gêm yn troi eto

Doedd hi ddim yn hir, fodd bynnag, cyn i Chris Nash golli ei wiced i adael ei dîm ar 157-6, wrth i Nick Selman sicrhau’r daliad oddi ar fowlio Ruaidhri Smith am 68.

Dilynodd David Wiese o fewn dim o dro, wedi’i ddal gan Zac Ringrose oddi ar fowlio Lukas Carey a’r sgôr yn 160-7.

Cafodd Chris Jordan ei ollwng gan Andrew Salter yn y belawd olaf cyn te, ond doedd e ddim yn mynd i gael trydydd cyfle wrth i Tom Cullen ei ddal oddi ar fowlio Ruaidhri Smith cyn yr egwyl, wrth i’r Saeson golli eu pedwaredd wiced am bump rhediad.

Erbyn yr egwyl, roedd y Saeson yn 173-8, ac roedd angen 36 o rediadau arnyn nhw o hyd, a dwy wiced yn weddill.

Diweddglo cyffrous – a Morgannwg yn ôl ynddi

Fe glosiodd Morgannwg at y fuddugoliaeth pan gafodd Jofra Archer ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Michael Hogan, a’i dîm bellach yn 179-9.

Ond roedd Swydd Sussex yn dechrau dangos arwyddion o ystyfnigo wrth i Ollie Robinson a Danny Briggs ddod at ei gilydd.

Fe lwyddon nhw i wrthsefyll popeth daflodd Morgannwg atyn nhw, ac fe ddaeth y cyfan i ben gyda chwech anferth gan Ollie Robinson, oedd wedi gorffen ar 41 heb fod allan oddi ar 37 o belenni.

Sêr y gêm

Yn absenoldeb rhai o’r chwaraewyr mwyaf profiadol, roedd digon o bethau bositif i’w gweld ym mherfformiad chwaraewyr ifainc Morgannwg.

Fe gyfrannodd Nick Selman (58) a Kiran Carlson (47) gyda’r bat cyn i Craig Meschede daro 87, ac roedd Tom Cullen, yn ei ail gêm Bencampwriaeth, wedi ychwanegu 42 at y cyfanswm batiad cyntaf wrth i Forgannwg orffen ar 294.

Cipiodd Ruaidhri Smith dair wiced, ac roedd dwy wiced i Lukas Carey, wrth i Forgannwg gyfyngu Swydd Sussex i 268 yn eu batiad cyntaf.

Roedd perfformiad Morgannwg gyda’r bat yn yr ail fatiad yn eithaf siomedig wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 182.

Ond wrth geisio amddiffyn nod o 209, fe safodd y rhan fwyaf o fowlwyr Morgannwg yn gadarn unwaith eto wrth rannu’r wicedi rhyngddyn nhw – tair i Lukas Carey a dwy yr un i Michael Hogan, Ruaidhri Smith ac Andrew Salter.

Yn sicr, roedd digon o berfformiadau cadarn i achosi pen tost i’r prif hyfforddwr Robert Croft pan fydd y chwaraewyr profiadol yn dychwelyd ar gyfer y gêm Bencampwriaeth nesaf.

Ond cyn hynny, mae sylw Morgannwg yn troi at Ddiwrnod Ffeinals y T20 Blast yn Edgbaston ddydd Sadwrn, lle byddan nhw’n herio’r Birmingham Bears yn y rownd gyn-derfynol.