Ottis Gibson
Mae cyn-chwaraewr tramor Morgannwg, Ottis Gibson wedi cael ei benodi’n brif hyfforddwr ar dîm criced De Affrica.

Roedd y bowliwr cyflym gyda’r Cymry rhwng 1994 a 1996.

Fe yw hyfforddwr bowlio Lloegr ar hyn o bryd, ac fe fydd e’n gadael y swydd honno ar ddiwedd y gyfres bresennol yn erbyn India’r Gorllewin, ei famwlad.

Treuliodd bedair blynedd yn brif hyfforddwr ar India’r Gorllewin rhwng 2010 a 2014.

Fe fu sôn ers peth amser y byddai’n olynu Russell Domingo, sydd â chytundeb tan ddiwedd yr haf.

Ond roedd Lloegr wedi gwadu’n ddiweddar bod De Affrica wedi gwneud cais i drafod y swydd gyda’r hyfforddwr 48 oed.