Y Birmingham Bears fydd gwrthwynebwyr Morgannwg yn eu gêm gyn-derfynol yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yn Edgbaston ddydd Sadwrn, Medi 2.

Hon fydd gêm gynta’r diwrnod, wrth i Swydd Hampshire wynebu Swydd Nottingham yn yr ail gêm, gyda llefydd yn y rownd derfynol y noson honno yn y fantol.

Bydd y gêm gyntaf yn dechrau am 11am, yr ail gêm am 2.30pm, a’r rownd derfynol am 6.45pm.

Birmingham oedd y tîm olaf i sicrhau eu lle yn Niwrnod y Ffeinals ar ôl trechu Swydd Surrey o chwe wiced ar eu tomen eu hunain ar gae’r Oval nos Wener.

Roedd Morgannwg eisoes wedi bwcio’u taith i Edgbaston, cartref Birmingham, gyda buddugoliaeth o chwe rhediad dros Swydd Gaerlŷr nos Fercher.

Hanes o blaid Morgannwg

Er mai ar y cae y mae’n rhaid ennill y gêm, mae’r cofnodion ar bapur o blaid Morgannwg, sydd wedi curo Birmingham yn eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn ei gilydd.

Dydy’r Saeson ddim wedi curo’r Cymry mewn gêm ugain pelawd ers wyth mlynedd, pan oedden nhw’n chwarae o dan yr enw Swydd Warwick. Bryd hynny, enillodd y Saeson o bedair wiced ar ôl perfformiad campus Rikki Clarke gyda’r bêl – roedd yntau’n chwarae dros Swydd Surrey yn erbyn ei gyn-glwb neithiwr.

Serch hynny, dydyn nhw ddim wedi herio’i gilydd mewn gêm ugain pelawd ers 2013.

Diwrnod y Ffeinals

Dydy Morgannwg ddim wedi cyrraedd Diwrnod y Ffeinals ers 2004.

Bryd hynny, Swydd Gaerlŷr oedd wedi atal Morgannwg rhag cyrraedd y gêm derfynol, wrth i Swydd Surrey guro Swydd Gaerhirfryn yn y gêm gyn-derfynol arall.

Swydd Gaerlŷr gipiodd y tlws y flwyddyn honno.