Mae Morgannwg wedi cyrraedd Diwrnod y Ffeinals am y tro cyntaf ers 2004 ar ôl curo Swydd Gaerlŷr o naw wiced yn rownd wyth olaf cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yng Nghaerdydd.

Cipiodd y bowliwr cyflym Craig Meschede dair wiced am 17, ac fe darodd Colin Ingram 70 heb fod allan oddi ar 43 o belenni.

Ar ôl galw’n gywir, penderfynodd yr ymwelwyr fatio. Ond cyn y gêm, daeth y timau i’r cae yn gwisgo bandiau duon am eu breichiau, am funud o gymeradwyaeth er cof am y cyn-chwaraewr ac un o fawrion Clwb Criced Morgannwg, Don Shepherd, fu farw lai nag wythnos ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.

Dechreuodd yr ymwelwyr yn gryf yn erbyn bowlio Marchant de Lange, wrth i Luke Ronchi daro pedwar, a Cameron Delport yn taro dau bedwar oddi ar Michael Hogan wrth iddyn nhw gyrraedd 21-0 ar ôl dwy belawd.

Ond cipiodd Morgannwg wiced fawr Cameron Delport yn y drydedd pelawd wrth iddo gael ei fowlio gan de Lange am 10. Parhau i glatsio wnaeth Ronchi yn erbyn Hogan, cyn i gyn-fatiwr Morgannwg, Mark Cosgrove ymuno yn yr hwyl gyda phedwar. Tarodd Ronchi chwech anferth dros ben y bowliwr wrth i’w dîm gyrraedd 44-1 ar ôl pedair pelawd.

Chwalfa

Serch hynny, doedd hi ddim yn hir cyn i Graham Wagg gipio wiced Ronchi, wrth ei fowlio fe am 28 yn y bumed pelawd, a’r sgôr yn 49-2. Tarodd Colin Ackermann chwech oddi ar y troellwr Andrew Salter wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 57-2 erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Ond roedd y batiwr allan yn fuan wedyn, wrth dynnu Craig Meschede yn sgwâr i Aneurin Donald yn y seithfed pelawd. Wrth i Swydd Gaerlŷr geisio cryfhau, parhau i bwyso wnaeth bowlwyr Morgannwg, ac roedd yn ormod i Cosgrove, wrth iddo gael ei fowlio gan Meschede yn y nawfed pelawd, a’i dîm erbyn hynny’n 81-4 erbyn hanner ffordd trwy’r batiad.

Cafodd Aadil Ali ei redeg allan yn y deuddegfed pelawd diolch i dafliad nerthol a chywir gan Kiran Carlson, a’r ymwelwyr mewn dyfroedd dyfnion ar 87-5. Cwympodd y chweched wiced yn y drydedd pelawd ar ddeg wrth i Ned Eckersley ergydio’n syth at Michael Hogan yn safle’r trydydd dyn agos oddi ar fowlio Meschede, oedd wedi gorffen gyda thair wiced am 17 yn ei bedair pelawd.

Daliad syml gafodd Colin Ingram i waredu Tom Wells oddi ar ei fowlio’i hun yn y bedwaredd pelawd ar ddeg, a’r Saeson erbyn hynny’n 94-7, cyn i Marchant de Lange waredu Matt Pillans mewn modd rhyfedd. Rholiodd y bêl oddi ar y batiwr ac i gyfeiriad y ffyn, a’r batiwr allan i adael ei dîm yn 98-8.

Roedd rhagor o siom i ddod, wrth i’r capten Clint McKay fynd am ergyd fawr, ond yn syth i gyfeiriad Aneurin Donald yn y cyfar, a hwnnw’n sicrhau wiced i’r bowliwr Michael Hogan, wrth i’r ymwelwyr golli eu nawfed wiced ar 102.

Ychwanegodd Gavin Griffiths a Callum Parkinson 21 am y wiced olaf cyn i Griffiths gael ei fowlio gan Graham Wagg, a’r tîm i gyd allan am 123 oddi ar 19.2 o belawdau.

Ymateb Morgannwg

Wrth gwrso 124 am y fuddugoliaeth, cafodd Morgannwg ddechrau digon siomedig gyda’r bat, wrth iddyn nhw golli Aneurin Donald yn y belawd gyntaf. Cafodd ei ddal gan Colin Ackermann ar ymyl y cylch ar yr ochr agored wrth yrru’r bowliwr Clint McKay.

Yn nwylo’r ddau fatiwr o Dde Affrica, Jacques Rudolph a Colin Ingram roedd tynged Morgannwg, ac fe ddaeth cyfres o ergydion i’r ffin yn digon buan.

Cafodd Gavin Griffiths ei dynnu am chwech gan Ingram yn y bumed pelawd cyn i Matt Pillans fynd am bedwar ym mhelawd ola’r cyfnod clatsio, a Morgannwg yn 37-1.

Fe ddylai Colin Ingram fod wedi dychwelyd i’r cwtsh ar ôl y belen nesaf, ond fe gafodd ei ollwng gan y capten Clint McKay oddi ar fowlio Pillans. Fe ddiolchodd am ail gyfle drwy daro chwech anferth ar unwaith.

Tarodd Jacques Rudolph dri phedwar yn y nawfed pelawd, a’r ergydion oddi ar Gavin Griffiths yn mynd i bob rhan o’r cae.

Closio at y fuddugoliaeth

Cyrhaeddodd Morgannwg 78-1 erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, a’r nod erbyn hynny oedd 46 oddi ar y deg pelawd oedd yn weddill. Wrth i Ingram glosio at ei hanner canred, fe dynnodd Pillans am chwech yn yr unfed belawd ar ddeg.

Tarodd Rudolph bedwar oddi ar y troellwr Colin Ackermann yn y deuddegfed pelawd, a’r nod erbyn hynny oedd 28 oddi ar wyth pelawd.

Cyrhaeddodd Colin Ingram ei hanner canred yn y belawd ganlynol, ac fe orffennodd yn gadarn gyda dau bedwar a dau chwech i orffen ar 70 heb fod allan a chael ei enwi’n seren y gêm. Roedd ei gapten a’i gydwladwr, Jacques Rudolph heb fod allan ar 46.

Mae Morgannwg yn ymuno â Swydd Hampshire ar Ddiwrnod y Ffeinals yn Edgbaston ar Fedi 2, gyda’r ddwy gêm gyn-derfynol arall yn cael eu cynnal nos Iau a nos Wener.

Nos Iau, fe fydd Swydd Nottingham yn herio Gwlad yr Haf yn Trent Bridge, cyn i Swydd Surrey groesawu Birmingham i gae’r Oval nos Wener.