Mae David Miller wedi cadarnhau ei fod e ar ei ffordd i Gaerdydd ar gyfer gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn rownd wyth olaf cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast heno.

Roedd amheuon a fyddai’r batiwr llaw chwith o Dde Affrica ar gael ar ôl gadael y sir ar ôl pum gêm er mwyn chwarae dros Dde Affrica A yn erbyn India A.

Ond aeth e ar yr awyren o Johannesburg ar ôl i’r gyfres ddod i ben ddoe, ac mae e wedi glanio yng Nghaerdydd mewn da bryd ar gyfer y gêm.

Cyrhaeddodd Morgannwg rownd ola’r gystadleuaeth ar ôl curo Swydd Middlesex o saith wiced nos Wener a gorffen ar frig grŵp y de.

Roedd hynny’n golygu eu bod nhw’n sicr o gael gêm gartref yn rownd yr wyth olaf, gan herio’r tîm oedd yn bedwerydd yng ngrŵp y gogledd.

Mae Swydd Hampshire eisoes wedi cyrraedd Diwrnod y Ffeinals ar ôl curo Swydd Derby o 101 o rediadau yn Derby neithiwr.

Mae Morgannwg eisoes wedi ennill saith gêm yn ystod yr ymgyrch – un yn brin o’u record yn holl hanes y gystadleuaeth, ar ôl iddyn nhw ennill wyth y llynedd cyn colli yn erbyn Swydd Efrog yng Nghaerdydd yn rownd yr wyth olaf.

Ond mae cryn her yn eu hwynebu heno, wrth iddyn nhw fynd ben-ben â’r bowliwr cyflym o Awstralia a chapten y sir, Clint McKay, sydd wedi cipio’r nifer fwyaf o wicedi yn y gystadleuaeth y tymor hwn (22).

Dim ond unwaith yn holl hanes y gystadleuaeth y mae’r ddwy sir wedi chwarae yn erbyn ei gilydd – a hynny ar Ddiwrnod y Ffeinals yn Edgbaston yn 2004, pan gollodd Morgannwg o bedair wiced yn y rownd gyn-derfynol, a’r Saeson yn mynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth drwy guro Swydd Surrey o saith wiced yn y rownd derfynol.

Dydy Swydd Gaerlŷr ddim wedi curo Morgannwg mewn gêm undydd yng Nghaerdydd ers 2003.

Hyder

Mae prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft wedi dweud bod ei dîm yn hyderus ar drothwy’r gêm yn dilyn buddugoliaethau’n ddiweddar dros Wlad yr Haf a Swydd Middlesex.

Byddan nhw hefyd yn awyddus i anghofio’r siom o golli yn yr un rownd y llynedd yn erbyn Swydd Efrog, yn dilyn perfformiad cywilyddus gan y batwyr.

“Pan y’ch chi’n tynnu tuag at ddiwedd cystadleuaeth, mae mwy o bwysau arnoch chi ond mae hynny’n wir am bob tîm.

“Ry’n ni wedi paratoi’n dda; ry’n ni’n chwarae’n eitha’ da ac yn edrych ymlaen at y cyfle sydd gyda ni.

“Ry’n ni’n sylweddoli yn y gemau terfynol mai’r peth pwysig yw’r tîm sy’n ymdopi orau â’r pwysau a phwy bynnag fydd yn gallu dilyn eu cynllun ar gyfer y gêm fydd yn ennill.”

Tristwch

Daw’r gêm heno ddyddiau’n unig ar ôl marwolaeth un o fawrion Clwb Criced Morgannwg, y cyn-droellwr a sylwebydd Don Shepherd.

Daeth y newyddion am ei farwolaeth fore Sadwrn, ddeuddeg awr yn unig ar ôl buddugoliaeth fawr Morgannwg, a chwe niwrnod yn unig ar ôl iddo fod yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.

Bydd y chwaraewyr yn gwisgo band du am eu breichiau ar gyfer y gêm heno, a bydd munud o gymeradwyaeth cyn dechrau’r ornest am 6.30pm.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), L Carey, K Carlson, C Cooke, M de Lange, A Donald, M Hogan, C Ingram, C Meschede, D Miller, O Morgan, A Salter, N Selman, G Wagg

Carfan Swydd Gaerlŷr: C McKay (capten), A Aadil, C Ackerman, M Cosgrove, C Delport, N Eckersley, G Griffiths, L Hill, D Klein, C Parkinson, M Pillans, L Ronchi, R Sayer, T Wells