Yn dilyn ei farwolaeth yn 90 oed, mae Clwb Criced Morgannwg wedi talu teyrnged i un o’r mawrion, Don Shepherd.

Chwaraeodd y troellwr i’r sir rhwng 1950 a 1972, ac roedd e’n aelod allweddol o’r garfan a gododd dlws Pencampwriaeth y Siroedd yn 1969.

Roedd e hefyd yn aelod o’r tîm a drechodd Awstralia ddwywaith – yn 1964 ac 1968.

Bu’n hyfforddi bowlwyr y sir ar ôl ymddeol, ac roedd ei lais yn un cyfarwydd i wrandawyr Radio Wales, ac yntau’n ddadansoddwr ochr yn ochr â’r sylwebydd Edward Bevan am dros 30 o flynyddoedd.

‘Dyn ffein a ffyddlon’

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris ei fod yn “un o’r mawrion”.

“Mae’n debyg na fydd bowliwr tebyg iddo fe eto yn holl hanes y gêm.

“Ond roedd Shep yn fwy na bowliwr hyfryd.

“Roedd e’n ddyn ffein a ffyddlon oedd wedi rhoi o’i orau i’r clwb bob amser ac roedd e’n aelod allweddol o dîm gwych Morgannwg yn y 1960au oedd wedi trechu Awstralia ddwywaith ac a oedd wedi codi tlws y siroedd.

“Roedd e bob amser yn barod i helpu a chynghori eraill, ac roedd ‘Shep’ yn fentor gwych i gynifer o gricedwyr, nid yn unig ym Morgannwg ond ar draws y byd criced a bydd y golled drist yn cael ei theimlo gan gynifer o bobol.”

‘Cymro balch a ffyddlon’

Ychwanegodd Cadeirydd Clwb Criced Morgannwg, Barry O’Brien fod “Shep yn cynrychioli popeth da am Glwb Criced Morgannwg” a’i fod “bob amser yn chwarae’r gêm yn yr ysbryd iawn”.

“Roedd e’n Gymro balch a ffyddlon a, fel cynifer o bobol oedd wedi ei wylio ar hyd y blynyddoedd yn San Helen a Pharc yr Arfau, dw i’n falch o fod wedi ei weld e’n bowlio a chael rhannu yn ei lwyddiant rhagorol wrth wisgo siwmper y daffodil.”

‘Arbenigwr a sylwebydd da’

Dywedodd ei ffrind a chyd-sylwebydd, Edward Bevan wrth golwg360 fod Don Shepherd yn “arbenigwr da ac yn sylwebydd da”.

“Mae unrhyw un sy wedi cymryd dros 2,000 o wicedi yn ei yrfa, dw i’n siŵr,  yn mynd i nabod y gêm 100% ac un fel’na oedd e.

“Dylai e fod wedi bod ar Test Match Special am flynydde achos, yn fy marn i, roedd e’n llawer gwell na llawer o bobol sydd wedi bod yna.

“Anghofia’i fyth mohono fe, roedd e’n gyfnod arbennig yn fy ngyrfa i i gael gweithio gyda fe.”

‘Boi ei filltir sgwâr’

Un o bentref Porteynon ym Mhenrhyn Gŵyr oedd Don Shepherd, ac ef oedd Llywydd Orielwyr San Helen, clwb cefnogwyr Morgannwg yn y de-orllewin.

Yn ôl John Williams, cadeirydd a sylfaenydd yr Orielwyr, “gei di ddim dyn arall sydd wedi gwneud cymaint dros griced yng Nghymru” na Don Shepherd.

“Boi ei filltir sgwâr oedd Don, a dyn cwbl ddiymhongar a serchus fyddai ar gael i siarad â phawb.

“Roedden ni’n browd iawn i’w gael e’n llywydd.”

‘Un o’r bois gorau’

Dywedodd ei gyd-chwaraewr Alan Jones wrth golwg360 ei fod e’n “un o’r bois gorau i’w gael yn y tîm”.

“Roedd e’n fowliwr mor dda ac oedd e bob amser yn fodlon helpu’r chwaraewyr eraill.

“O’n i’n chwarae flynydde’n ôl, a’r batwyr yn meddwl ei fod e’n un o’r bowlwyr gorau o’n nhw wedi chwarae yn eu herbyn, ac oedd hwnna’n dweud dipyn am ‘Shep’.”