Un pwynt yn unig sydd ei angen ar Forgannwg heno er mwyn sicrhau gêm gartref yn rownd wyth olaf cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast.

Maen nhw eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf, ond byddai gêm gyfartal – naill ai ar ffurf y sgôr neu’r tywydd – yn ddigon i sicrhau gêm yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf, gyda’r gemau’n cael eu cynnal rhwng nos Fawrth a nos Wener.

Ar ôl i Swydd Essex guro Swydd Gaint neithiwr, dim ond Swydd Hampshire a Swydd Surrey all orffen uwchben Morgannwg yn y tabl – a’r Cymry sydd ar y brig ar ddechrau’r noson olaf yn y grwpiau.

Mae’r gystadleuaeth ar ffurf dau grŵp – y de a’r gogledd – ac fe fydd yr wyth olaf yn cael eu trefnu fesul safle yn y tabl. Bydd y timau ar frig y ddau grŵp yn herio’r timau yn y pedwerydd safle yn y grŵp arall, a’r tîm yn yr ail safle mewn un grŵp yn herio’r tîm yn y trydydd safle yn y grŵp arall – fel a ganlyn:

De 1 v Gogledd 4

Gogledd 1 v De 4

De 2 v Gogledd 3

Gogledd 2 v De 3

Mae Morgannwg yn herio Swydd Middlesex yng Nghaerdydd ac yn mynd am seithfed buddugoliaeth o’r bron yn erbyn y sir mewn gemau ugain pelawd.

Ond oherwydd y tywydd eleni, dydy Morgannwg ddim wedi ennill yr un o’u gemau ar eu tomen eu hunain yn y gystadleuaeth hon.

Does dim newid yn y garfan ar ôl i Forgannwg guro Gwlad yr Haf yn Taunton ddydd Sul diwethaf, y canlyniad oedd wedi sicrhau eu lle ymhlith yr wyth olaf.

Bydd Morgannwg yn wynebu dau o’u cyn-chwaraewyr, y bowlwyr cyflym James Franklin o Seland Newydd, a dreuliodd dymor gyda nhw yn 2006, a Tom Helm, y bowliwr ifanc a dreuliodd gyfnod ar fenthyg gyda’r sir yn 2014.

Robert Croft yn hapus

Ar ôl i Forgannwg gyrraedd rownd yr wyth olaf, dywedodd y prif hyfforddwr, Robert Croft: “Pan edrychwch chi ar y tabl a gweld bod pwynt fan hyn a fan draw yn gwahanu’r siroedd eraill, mae wedi bod yn farathon o ymgyrch ym mhob ffordd.

“Gyda chynifer o gemau gartref wedi dod i ben yn gynnar oherwydd y glaw, dw i wrth fy modd gyda’r perfformiadau oddi cartref, a’r ffordd wnaethon ni ymdopi â’r rhwystredigaeth ar ôl colli’n drwm yn erbyn Swydd Hampshire yr wythnos ddiwethaf.

“Mae gyda ni griw o chwaraewyr sy’n uchelgeisiol a gonest, ac fe sylweddolon ni i gyd ar ôl curo Gwlad yr Haf o un rhediad ddydd Sul diwethaf ein bod ni wedi perfformio’n dda am ran fwya’r gêm, ond ar adegau doedden ni ddim wedi cyrraedd y safon ry’n ni wedi ei gosod i ni ein hunain.

“Dw i wrth fy modd o gyrraedd rownd yr wyth olaf, ond yr unig gêm ar ein meddwl yr wythnos hon yw’r un yn erbyn Swydd Middlesex lle bydd llwyddiant yn sicrhau gêm gartref yn yr wyth olaf.

“Dangoson nhw yn erbyn Swydd Gaerloyw yr wythnos hon eu bod nhw’n dîm pwerus.”

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), L Carey, K Carlson, C Cooke, T Cullen, M de Lange, A Donald, M Hogan, C Ingram, C Meschede, A Salter, N Selman, R Smith, G Wagg

Carfan Swydd Middlesex: E Morgan (capten), T Barber, S Eskinazi, S Finn, J Franklin, T Helm, R Higgins, R Patel, G Scott, J Simpson, T Southee, N Sowter, P Stirling, A Voges