Mae Morgannwg wedi curo Gwlad yr Haf o un rhediad yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yn Taunton i gyrraedd rownd yr wyth olaf gydag un gêm yn weddill.

Ond dydy hi ddim yn glir eto a fyddan nhw’n cael chwarae gartref.

Sgoriodd Nick Selman 66 oddi ar 42 o belenni cyn i Colin Ingram daro 35 oddi ar 25 o belenni wrth i Forgannwg sgorio 183-6 yn eu hugain pelawd.

Er i Johann Myburgh daro 87 oddi ar 51 o belenni, arhosodd Morgannwg yn gadarn, wrth i Graham Wagg, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobol Llaw Chwith, gipio dwy wiced am 20 i gyfyngu Gwlad yr Haf i 182-6.

Manylion

Cafodd Morgannwg eu gwahodd i fatio’n gyntaf, a chael dechrau digon addawol wrth i Nick Selman ac Aneurin Donald agor y batio yn erbyn y troellwyr Max Waller a Roelof van der Merwe. Dechreuodd y clatsio’n gynnar wrth iddyn nhw gyrraedd 17-0 erbyn diwedd yr ail belawd.

Newid tacteg oedd ymateb Gwlad yr Haf wrth i Craig Overton a Paul van Meekeren gael eu cyflwyno yn y drydedd a’r bedwaredd pelawd. Ond fawr o wahaniaeth wnaeth hynny wrth i’r clatsio barhau, a’r Cymry’n cynnal y gyfradd sgorio ar 35-0 ar ôl pedair pelawd.

Cyrhaeddodd Morgannwg yr hanner cant yn y bumed pelawd gyda phelen anghyfreithlon. Daeth cyfle i Lewis Gregory ddal Nick Selman yn y chweched pelawd oddi ar fowlio van Meekeren, ond fe gwympodd y bêl o flaen y maeswr, a Morgannwg yn 64-0 ar ddiwedd y cyfnod clatsio, sef eu cyfanswm gorau oddi ar chwe phelawd yn y gystadleuaeth eleni.

Daeth hanner canred Nick Selman oddi ar 26 o belenni, ac roedd e wedi taro wyth pedwar erbyn hynny. Ond collodd Aneurin Donald ei wiced oddi ar y belen nesaf, wedi’i ddal gan Dean Elgar oddi ar fowlio Craig Overton am 33, a Morgannwg yn 87-1 ar ôl naw pelawd.

Cafodd momentwm y Cymry ei arafu rywfaint gan y wiced ond fe frwydrodd Nick Selman a’i bartner newydd Colin Ingram yn ôl i gyrraedd 123-1 ar ôl pedair pelawd ar ddeg, y naill heb fod allan ar 65 oddi ar 40 o belenni, a’r llall heb fod allan ar 19 oddi ar 16 o belenni.

Wrth i’r troellwr Max Waller ddychwelyd i fowlio, daeth hanner cyfle i ddal Colin Ingram ar ochr y goes, ond fe laniodd y bêl yn ddiogel rhwng dau faeswr rhwystredig. Ond cafodd Nick Selman ei stympio gan Steve Davies am 66 wrth geisio sgubo’r troellwr Max Waller yn y bymthegfed pelawd, a Morgannwg yn 128-2.

Collodd Morgannwg eu trydedd wiced yn y belawd ganlynol, wrth i Paul van Meekeren wasgaru ffyn Chris Cooke am 1, a’r Cymry’n 128-3. Wrth i Graham Wagg ymuno â Colin Ingram, ychwanegon nhw 17 at y cyfanswm yn yr ail belawd ar bymtheg i gyrraedd 153-3, ac Ingram erbyn hynny’n 35 heb fod allan oddi ar 24 o belenni. Ond fe gollodd ei wiced oddi ar y belen nesaf, wedi’i ddal gan ei gydwladwr Dean Elgar oddi ar fowlio Lewis Gregory, a Morgannwg yn 153-4.

Ychwanegodd y capten Jacques Rudolph saith at y cyfanswm cyn iddo yntau gael ei ddal gan Paul van Meekeren wrth gamergydio oddi ar fowlio Craig Overton am saith, a Morgannwg yn 173-5 yn y belawd olaf ond un. Daeth wiced ryddefa’r batiad yn y belawd olaf wrth i Craig Meschede gael ei redeg allan am ddau wrth i’r bêl adlamu’n ôl oddi ar law’r bowliwr Paul van Meekeren, a Morgannwg yn gorffen y batiad ar 183-6, a Graham Wagg yn 28 heb fod allan.

Ymateb Gwlad yr Haf

Bedair pelen yn unig gymerodd hi i Forgannwg gipio’u wiced gyntaf wrth i Wlad yr Haf gwrso 184 am y fuddugoliaeth. Ergydiodd Steve Davies yn wyllt y tu allan i’r ffon agored, a Marchant de Lange yn barod am y daliad ar ymyl y cylch oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter. Ond clatsio wnaeth Lewis Gregory i sicrhau bod Gwlad yr Haf yn gydradd â chyfradd Morgannwg ar ôl tair pelawd ar 26-1.

Ond cipiodd Graham Wagg wiced Lewis Gregory yn y belawd ganlynol, wrth i’r batiwr dynnu’r bêl i gyfeiriad Marchant de Lange ar y ffin am 18, a’r Saeson yn 26-2. Erbyn diwedd y cyfnod clatsio, roedd Gwlad yr Haf wedi llwyddo i gyrraedd 53-2, 11 o rediadau y tu ôl i sgôr cyfatebol Morgannwg ond wedi colli dwy wiced yn fwy.

Adeiladodd Dean Elgar a Johann Myburgh bartneriaeth bwysig dros y pelawdau nesaf i gyrraedd 87 cyn colli Elgar am 24, wedi’i ddal gan Nick Selman oddi ar fowlio Michael Hogan wrth i Wlad yr Haf gyrraedd 93-3 hanner ffordd drwy eu batiad, ddau rediad y tu ôl i’r Cymry ar yr un adeg ond wedi colli dwy wiced yn fwy. Cyrhaeddon nhw’r 100 erbyn diwedd y belawd ganlynol.

Ond buan y collon nhw eu pedwaredd wiced, wrth i James Hildreth daro ergyd lac i’r ochr agored a chael ei ddal gan Lukas Carey oddi ar fowlio Graham Wagg am naw, a Gwlad yr Haf yn 104-4 erbyn diwedd y deuddegfed pelawd. Cyrhaeddodd Johann Myburgh ei hanner canred gyda chwech ddechrau’r drydedd pelawd ar ddeg.

Diweddglo cyffrous

Daeth 38 o rediadau oddi ar y tair pelawd canlynol, oedd yn golygu mai 42 oddi ar bum pelawd ola’r batiad oedd y nod i Wlad yr Haf. Daeth deuddeg oddi ar y gyntaf ohonyn nhw, wedi’i bowlio gan Marchant de Lange. 22 oddi ar dair pelawd oedd eu hangen pan gafodd Jim Allenby, cyn-gapten Morgannwg, ei redeg allan am 21, cyn i Marchant de Lange fowlio Johann Myburgh am 87, a’r sgôr yn 164-6.

Daeth Roelof van der Merwe i’r llain ar gyfer y belawd olaf ond un a tharo chwech wrth i Wlad yr Haf gyrraedd 176-6 gyda chwe phelen yn weddill i sgorio wyth. Ond Morgannwg aeth â hi o drwch blewyn yn y pen draw, a Morgannwg yn gorfod aros ychydig i glywed eu bod nhw drwodd i’r rownd nesaf.