Mae un o’r chwaraewyr gorau yn hanes Clwb Criced Morgannwg, Don Shepherd yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed heddiw.

Y troellwr sydd â’r record am y nifer fwyaf o wicedi dosbarth cyntaf – 2,174 – gan chwaraewr o unrhyw sir sydd heb chwarae criced rhyngwladol.

Ond fel bowliwr cyflym y dechreuodd ei yrfa, gan gipio 115 o wicedi yn ystod tymor 1952.

Ond fel troellwr y cafodd e gryn lwyddiant o 1955 ymlaen, gan gynnwys 168 o wicedi y tymor canlynol, gan gipio pum wiced mewn batiad 15 o weithiau.

Fe gipiodd e 100 o wicedi mewn tymor 13 o weithiau, ac fe gipiodd e hat-tric yn erbyn Swydd Northampton ar gae San Helen yn Abertawe yn 1964.

Yn 1961 yn Abertawe, tarodd e hanner canred mewn chwarter awr yn erbyn Awstralia, ac fe arweiniodd y sir i fuddugoliaeth dros yr un tîm yn 1968.

Yn 1969, Don Shepherd gipiodd y wiced fuddugol wrth i Forgannwg godi tlws Pencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd, ac fe gafodd ei enwi’n un o chwaraewyr gorau Wisden am ei berfformiadau yn ystod y tymor hwnnw.