Noson i’r troellwyr oedd hi yn Southampton, wrth i Swydd Hampshire guro Morgannwg o wyth wiced yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast, wrth i’r capten James Vince sgorio 60 heb fod allan.

Cipiodd y troellwr coes ifanc Mason Crane dair wiced am 21 yn ei bedair pelawd, ac roedd dwy wiced i’r troellwr llaw chwith Liam Dawson am 15. Cipiodd y troellwr coes o Bacistan, Shahid Afridi un wiced am 16 yn ei belawd yntau, wrth i Forgannwg orffen eu batiad ar 118-6.

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio ar lain wlyb yn Southampton, cafodd Morgannwg y dechrau gwaethaf posib wrth iddyn nhw golli eu wiced gyntaf oddi ar drydedd pelen y gêm. Aneurin Donald oedd y batiwr allan, wedi’i fowlio gan Liam Dawson heb sgorio.

Tarodd Colin Ingram chwech a phedwar oddi ar Gareth Berg yn yr ail belawd cyn iddo yntau gael ei ddal gan Chris Wood oddi ar fowlio Liam Dawson am 13, a’r troellwr llaw chwith yn cipio’i ail wiced, a Morgannwg yn 15-2.

Colli trydedd wiced

Roedd y Cymry’n 34-2 erbyn diwedd y cyfnod clatsio, ond buan y collon nhw drydedd wiced wrth i’r Awstraliad ifanc Nick Selman gael ei fowlio gan y troellwr coes ifanc Mason Crane am 17 yn y nawfed pelawd, a’r cyfanswm yn 46-3.

Ar ôl llwyddo i gyrraedd 53-3 erbyn hanner ffordd trwy’r batiad, collodd Morgannwg ddwy wiced mewn pelenni olynol. Daeth eu pedwaredd wiced wrth i Chris Cooke gael ei ddal gan Gareth Berg oddi ar fowlio Mason Crane am bump wrth fynd am ergyd fawr.

Cafodd y capten Jacques Rudolph ei stympio gan Calvin Dickinson am 20, a Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion ar 56-5.

Daeth chweched wiced i’r Saeson wrth i Craig Meschede gael ei fowlio gan y troellwr coes o Bacistan, Shahid Afridi am bedwar, a Morgannwg yn 65-6.

Ond llwyddodd Andrew Salter (37 heb fod allan) a Graham Wagg (16) i sicrhau bod Morgannwg yn cyrraedd cyfanswm parchus gyda phartneriaeth o 53. Daeth cyfraniad Andrew Salter oddi ar 27 o belenni, ac fe darodd e dri phedwar ac un chwech.

Cwrso

Wrth gwrso 119 am y fuddugoliaeth, dechreuad digon siomedig gafodd Swydd Hampshire hefyd, wrth iddyn nhw golli eu wiced gyntaf ar ddiwedd y belawd gyntaf, wrth i’r troellwr coes Colin Ingram ddarganfod coes Calvin Dickinson o flaen y wiced am 3, a’r Saeson yn 8-1.

Wrth i James Vince wneud i’r batio edrych yn hawdd, fe gollodd ei dîm eu hail wiced wrth i Colin Ingram yntau gipio’i ail wiced wrth i’r batiwr Tom Alsop yrru’n syth i lawr corn gwddf Marchant de Lange am 28, a Swydd Hampshire yn 76-2 yn y nawfed pelawd.

Cyrhaeddodd James Vince ei hanner canred oddi ar 32 o belenni, gan daro naw pedwar, a’i dîm yn nesáu at y fuddugoliaeth. Ac fe gyrhaeddodd e 60 heb fod allan wrth iddyn nhw groesi’r llinell derfyn.