Lai na deufis ar ôl cipio pum wiced yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf dros Swydd Derby oddi cartref yn erbyn Morgannwg o dan y llifoleuadau, mae’r troellwr 16 oed o Afghanistan, Hamidullah Qadri yn ôl yng Nghaerdydd heddiw gyda thîm criced dan 19 Lloegr.

Maen nhw’n herio India yng ngêm gynta’r gyfres undydd ar y Swalec (11 o’r gloch).

Mae Hamidullah Qadri yn dechrau ar ei yrfa wrth i’w famwlad ddechrau pennod newydd yn eu hanes ar ôl sicrhau statws prawf. Er iddo gael ei eni yn y wlad, yng nghynghreiriau Swydd Derby y dysgodd ei grefft fel cricedwr.

Dywedodd y prif hyfforddwr Andy Hurry: “Fe fydd ambell chwaraewr ifanc yn dod i mewn i’r garfan ar gyfer y gyfres undydd, fel Hamidullah Qadri a Tom Lammonby, dau chwaraewr sydd â’r potensial i anelu am yr uchelfannau.

“Dyma fydd eu profiad cyntaf nhw o fewn y llwybrau rhyngwladol a bydd yn brofiad heriol iddyn nhw.

“Mae cymaint i edrych ymlaen ato dros y gaeaf hefyd, a dw i wedi fy argyhoeddi y byddwn ni’n dysgu tipyn o’r gyfres undydd, ac yn profi eu sgiliau nhw o dan bwysau.”

Y garfan

Will Jacks o Swydd Surrey fydd yn arwain Lloegr heddiw yn lle Harry Brooks o Swydd Efrog, sydd wedi cael ei ddewis i gynrychioli ei sir yn erbyn Swydd Essex yn y Bencampwriaeth yn Scarborough.

Fe fydd Matt Potts o Swydd Durham yn gadael carfan Lloegr heddiw am yr un rheswm, sy’n golygu na fydd yntau ar gael chwaith.

Mae Fin Trenouth a’r wicedwr Tom Banton o Wlad yr Haf wedi cael eu hychwanegu at y garfan yn lle’r ddau.

Bydd y gyfres yn un gystadleuol wrth i’r chwaraewyr geisio ennill eu lle yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf.

Mae nifer o wynebau newydd yn y garfan – y batiwr Felix Organ (Swydd Hampshire), y bowliwr cyflym Adam Finch (Swydd Gaerwrangon), a’r bowlwyr cyflym Ben Allison a Jack Plom o Swydd Essex.

Gair o gyngor

Wrth i’r garfan baratoi ar gyfer y gêm, fe gawson nhw ymweliad gan y cyn-gricedwyr rhyngwladol Darren Gough a James Taylor.

Siaradon nhw â’r chwaraewyr am heriau’r byd criced rhyngwladol, ac mae Darren Gough wedi bod yn cydweithio â hyfforddwr y bowlwyr, Kevin Shine.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn £5 i oedolion, tra bod aelodau Morgannwg a phlant yn cael mynediad yn rhad am ddim.

Carfan Lloegr: Ben Allison (Swydd Essex), Liam Banks (Swydd Warwick), Tom Banton (Gwlad yr Haf), Jack Blatherwick (Swydd Nottingham), Henry Brookes (Swydd Warwick), Adam Finch (Swydd Gaerwrangon), Will Jacks (Swydd Surrey, capten), Tom Lammonby (Gwlad yr Haf), Felix Organ (Swydd Hampshire), Liam Patterson-White (Swydd Nottingham), Jack Plom (Swydd Essex), Hamidullah Qadri (Swydd Derby), Oli Robinson (Swydd Gaint), Fin Trenouth (Gwlad yr Haf), Liam Trevaskis (Swydd Durham).

Sgorfwrdd