Lukas Carey ar y chwith (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae prif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, Robert Croft wedi canmol perfformiadau dau o’r Cymry ifainc yn y tîm wrth iddyn nhw guro Swydd Surrey o chwech o rediadau yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast ar gae’r Oval nos Wener.

Tarodd y batiwr 20 oed, Aneurin Donald 72 oddi ar 40 o belenni wrth i Forgannwg sgorio 181-6 yn eu hugain pelawd.

Wrth geisio amddiffyn y cyfanswm hwnnw, cipiodd y bowliwr cyflym Lukas Carey, 20, ei ail wiced yn ei ail gêm ugain pelawd i’r sir, gan orffen gydag un wiced am 24 mewn tair pelawd.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn aros ar frig y tabl wrth geisio am le yn rownd yr wyth olaf.

Beirniadaeth

Ond fe fu cryn feirniadaeth yn ddiweddar nad oes digon o Gymry yn y tîm, gyda chwech o chwaraewyr o Dde Affrica wedi hawlio’u lle ymhlith y garfan sy’n chwarae yn y T20 Blast.

Wrth ymateb i’r feirniadaeth, mae Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris wedi dweud bod rhaid i’r Cymry ennill eu lle yn y tîm.

Dywedodd Robert Croft wrth BBC Radio Cymru ar ôl y gêm: “Nag o’dd lot o’r bois wedi whare o flaen torf o’r blaen fel wnaethon nhw neithiwr.

“Fi wedi clywed lot o bobol yn dweud nag yw’r bois o Gymru’n gwneud lot ar y cae yn y gêm ugain pelawd.

“Ond roedd Aneurin Donald o Gorseinon a Lukas Carey o Bontarddulais wedi whare’n dda i Forgannwg ar y cae.

“Felly maen nhw wedi cael profiad mas o’r gêm hyn a gobeithio bo nhw’n gallu mynd ymlaen yn y dyfodol.”