Aneurin Donald (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae Morgannwg yn dal ar frig tabl y T20 Blast ar ôl curo Swydd Surrey o chwech rhediad ar gae’r Oval heno.

Sgoriodd Aneurin Donald 72 oddi ar 40 o belenni, gan gynnwys 11 pedwar a dau chwech, wrth i Forgannwg sgorio 181-6 yn eu hugain pelawd. Hwn yw sgôr gorau erioed y batiwr ifanc o Abertawe mewn gêm ugain pelawd.

Roedd ei fatiad yn cynnwys 22 oddi ar un belawd gan y troellwr Gareth Batty, wrth iddo fe daro chwech a phedwar pedwar.

Adeiladodd e bartneriaeth o 95 gyda Colin Ingram (42) am yr ail wiced.

Wrth gwrso 182 am y fuddugoliaeth, sgoriodd Tom Curran 51 oddi ar 27 o belenni ond doedd hynny ddim yn ddigon wrth i’r Saeson orffen chwe rhediad yn brin ar 175-7.

Roedd Aaron Finch (33) a Mark Stoneman (34) wedi ychwanegu 63 am yr ail wiced.

Cipiodd Marchant de Lange, y bowliwr cyflym o Dde Affrica, dair wiced am 29 yn ei bedair pelawd.