Ar ôl i wiced Jacques Rudolph gostio’n ddrud i Forgannwg, fe wrthododd y bowliwr cyflym Michael Hogan roi’r bai ar ei gapten am y golled o bum rhediad yn y T20 Blast yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd nos Iau.

Collodd y batiwr o Dde Affrica ei wiced oddi ar belen ola’r ornest cyn i’r glaw ddod. Pe bai e’n dal wrth y llain heb golli ei wiced, fe fyddai Morgannwg wedi sicrhau gêm gyfartal drwy ddull Duckworth-Lewis-Stern.

Ond mae Morgannwg yn dal ar frig eu grŵp wrth iddyn nhw deithio i’r Oval nos Wener i herio Swydd Surrey, ac maen nhw’n dal mewn sefyllfa gref i gyrraedd rownd wyth olaf y gystadleuaeth ugain pelawd yn y pen draw.

Hapus gyda’r perfformiad… ond siomedig gyda’r canlyniad….

Dywedodd Michael Hogan wrth golwg360: “Mae’r canlyniad yn un siomedig. Allwch chi ddim rheoli’r tywydd. Mae’n bosib y gallai gostio’n ddrud i ni yn y pen draw, ond efallai na wnaiff e, dydyn ni ddim yn gwybod eto. Ond mae’r canlyniad yn un siomedig.

“Roedden ni’n teimlo ein bod ni wedi’u cyfyngu nhw tua’r diwedd i gyfanswm gweddol, a gyda’r chwaraewyr sydd gyda ni, roedden ni’n teimlo y gallen ni gyrraedd y nod, ond nid dyna ddigwyddodd yn y pen draw.

“Os y’ch chi am fod yn feirniadol, wnaethon ni ildio nifer o ychwanegiadau hefyd, a nifer o belenni llydan. Mae’r rheiny, ynghyd â’r pelenni ychwanegol pan y’ch chi’n ildio rhediadau, yn golygu y dylen ni fod wedi bod yn amddiffyn cyfanswm llai hefyd.

“Mae dwy ffordd o edrych ar y peth. Dydych chi ddim yn gwybod pan fo’r glaw yn dod na fyddwch chi’n dychwelyd ar ôl gadael y cae. Roedd yr ergyd yn un siomedig ar y pryd, ond does neb yn beio [Jacques Rudolph].”

Wrth drafod ei berfformiad ei hun, sef pum wiced am 17 rhediad, ychwanegodd Michael Hogan: “Dw i’n hapus gyda’r ffigurau a’r perfformiad ac ro’n i’n teimlo ’mod i wedi rheoli’r hyn ro’n i’n ceisio’i wneud.

“Dw i’n hapus gyda’r wicedi ond yn siomedig gyda’r canlyniad.

“Wnes i redeg rhywun allan hefyd. Pan fo popeth o’ch plaid chi, mae’n digwydd fel’na.

“Mewn gemau T20, pan y’ch chi’n gwneud yn dda, mae’r gêm yn symud ymlaen yn gyflym. Gall ddigwydd fel’na ac fe aeth rhywbeth o ‘mhlaid i, o leiaf.”

Crynodeb

Roedd ffigurau Michael Hogan yn cynnwys pum wiced am saith rediad mewn dwy belawd. Ond dim ond pum pelawd o ymateb Morgannwg oedd yn bosib cyn i’r glaw ddod, a’r Cymry’n 32-2, gan gwrso 151 i ennill.

Ar ôl gwahodd Swydd Gaerloyw i fatio, roedd bowlwyr Morgannwg wedi’i chael hi’n anodd darganfod y lein gywir i ddechrau, gan ildio pelenni llydan di-ben-draw yn y pelawdau agoriadol.

Ildiodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten ddeg rhediad yn ei ail belawd, gan gynnwys chwech gan Phil Mustard i’r eisteddle wrth i’r ymwelwyr ddechrau ymgartrefu.

Daeth y bowliwr cyflym o Dde Affrica, Marchant de Lange i mewn i’r ymosod ac fe barhaodd Phil Mustard a Michael Klinger i ddarganfod y ffin dro ar ôl tro, a chyrraedd 36-0 ar ôl pum pelawd.

Roedd Graham Wagg wedi’i chael hi’n anodd darganfod ei lein yntau hefyd yn niwedd y cyfnod clatsio, a Swydd Gaerloyw’n 45-0 ar ddiwedd y chweched pelawd.

Ond wrth droi at Craig Meschede, un arall o Dde Affrica, daeth wiced i Forgannwg wrth i Michael Klinger gael ei ddal gan Andrew Salter ar y ffin am 15.

Cyrhaeddodd Phil Mustard ei hanner canred gyda chwech oddi ar y troellwr Andrew Salter yn y deuddegfed pelawd, a tharodd Ian Cockbain chwech hefyd yn yr un belawd wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 97-1.

Ond daeth ail wiced i Forgannwg ac i Craig Meschede gyda’r sgôr yn 98, wrth i Ian Cockbain ei tharo hi i’r awyr i gyfeiriad Michael Hogan am 22. Gorffennodd y bowliwr gyda ffigurau o ddwy wiced am 28 yn ei bedair pelawd.

Daeth Colin Ingram, y troellwr coes, ymlaen i fowlio a chipio wiced Phil Mustard am 57, wrth i hwnnw ddarganfod dwylo Andrew Salter ar y ffin, ac yntau’n sicrhau ei ail ddaliad. Roedd y batiwr wedi taro pedwar pedwar a thri chwech erbyn hynny.

Roedd Swydd Gaerloyw’n mynd am gyfanswm parchus wrth i Kieran Noema-Barnett barhau i glatsio yn niwedd y batiad, gan daro pedwar a chwech oddi ar Colin Ingram. Fe ddylai Marchant de Lange fod wedi cipio wiced Jack Taylor yn yr ail belawd ar bymtheg, ond methodd Aneurin Donald â’i dal hi ar y ffin.

Ond fe gipiodd y chwaraewr ifanc ddaliad yr ail waith wrth waredu Kieran Noema-Barnett am 17 oddi ar fowlio Michael Hogan. Cipiodd y bowliwr ddwy wiced arall yn y belawd i waredu Jack Taylor a Thisara Perera, yr ail ohonyn nhw diolch i ddaliad campus gan David Miller yn ei gêm olaf yng Nghaerdydd.

Daeth pedwaredd wiced Michael Hogan oddi ar belen gynta’r belawd olaf, wrth iddo fe fowlio George Hankins am dri. Fe rhedodd e Matt Taylor allan, a Swydd Gaerloyw’n 145-8, a daeth pumed wiced i’r bowliwr wrth i Benny Howell gael ei ddal gan Colin Ingram.

Daeth y batiad i ben ar 150-9.

Ymateb Morgannwg

Tarodd Aneurin Donald dri phedwar yn olynol oddi ar dair pelen gynta’r batiad oddi ar Matt Taylor, ond fe gollodd ei wiced yn y belawd nesaf wrth gael ei ddal gan Benny Howell oddi ar David Payne, a’r sgôr yn 19-1.

Roedd Jacques Rudolph allan oddi ar fowlio Thisara Perera yn y pumed pelawd cyn i’r glaw ddod.

Roedd disgwyl i’r gêm ail-ddechrau am 9.15pm gyda’r nod wedi’i addasu i 114, oedd yn golygu bod gan Forgannwg nod o 82 oddi ar naw pelawd.

Ond doedd hi ddim yn bosib dychwelyd, ac mae’r timau’n rhannu’r pwyntiau.