Jacques Rudolph (Llun: Wikipedia)
Tarodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph a’r Cymro ifanc, Aneurin Donald hanner canred yr un wrth i Forgannwg guro Swydd Gaint o 25 o rediadau yn y T20 Blast yng Nghaergaint y prynhawn yma.

Dyma’u pedwaredd fuddugoliaeth o’r bron oddi cartref.

Sgoriodd Jacques Rudolph 77 oddi ar 52 o belenni, ac roedd ei fatiad yn cynnwys wyth pedwar ac un chwech.

Ychwanegodd Aneurin Donald 50 oddi ar 31 o belenni, gan gynnwys wyth pedwar, wrth i Forgannwg sgorio 199-2 yn eu hugain pelawd. Tarodd David Miller 43 oddi ar 26 o belenni – gan gynnwys chwe phedwar ac un chwech – yn ogystal.

Doedd 68 oddi ar 50 o belenni gan Joe Denly a 60 oddi ar 34 o belenni i’r capten Sam Northeast ddim yn ddigon i’r Saeson wrth iddyn nhw orffen eu batiad ar 174-4, 25 o rediadau’n brin o’r nod.

Cipiodd Lukas Carey, y bowliwr cyflym ifanc o Bontarddulais, wiced oddi ar ei drydedd pelen erioed mewn gemau ugain pelawd pan fowliodd e Daniel Bell-Drummond am dri.

Bellach, mae gan Forgannwg fantais o ddau bwynt dros Swydd Surrey ar frig y tabl, a byddan nhw’n herio Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd nos Iau.