Mae Clwb Criced Morgannwg wedi arwyddo David Miller o Dde Affrica yn chwaraewr tramor ar gyfer yr ymgyrch NatWest T20 Blast.

Mae disgwyl i’r batiwr llaw chwith gyrraedd ddydd Sadwrn, ac fe fydd ar gael ar gyfer y gemau sirol yn erbyn Essex Eagles ddydd Sul (Gorffennaf 23). Ei gêm olaf yn yr ymgyrch fydd honno yn erbyn Surrey ddydd Gwener, Awst 4.

Mae David Miller wedi chwarae gemau rhyngwladol 20 pelawd a gemau undydd dros Dde Affrica, ac mae wedi chwarae i’r Durham Jets a’r Yorkshire Vikings yn y T20 cyn hyn. Mae wedi sgorio bron i 5,000 o rediadau yn y T20.

Y tro olaf iddo droi allan yng Nghaerdydd oedd ddiwedd Mehefin, pan oedd De Affrica yn herio Lloegr yn ymgyrch y T20 Rhyngwladol.

“Rydyn ni’n falch iawn o arwyddo David Miller ar gyfer yr ymgyrch chwe gêm,” meddai Hugh Morris, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Criced, Clwb Morgannwg.

“Mae David yn fatiwr ffein, gyda digonedd o brofiad T20. Mae e’n gwybod sut mae ennill gemau, ac mae’n sgoriwr dwys. Mae e’n siwr o ddod â dyfnder i’n batio ni, a rhoi hwb i’n gobeithion o wneud yn dda yn yr ymgyrch.”